Un o adfeilion archeolegol pwysicaf Eryri
Caer Rufeinig yw Tomen y Mur sy’n sefyll ar waelodion llethrau Mynydd Maentwrog, dafliad carreg o Lyn Trawsfynydd. Adeiladwyd y gaer gan y Cadfridog Gnaeus Julius Agricola yn 78AD fel rhan o’i ymgyrch i reoli’r Ordoficiaid, llwyth Celtaidd a oedd yn wrthwynebwyr chwyrn o reolaeth Rufeinig.
Tomen y Mur dros yr oesodd
Mae ffurfiau’r tir o amgylch Tomen y Mur yn awgrymu y bu tŷ baddon, mansio (tŷ ar gyfer swyddogion a oedd yn ymweld), teml, amffitheatr filwrol a maes ymarfer yn sefyll ar y safle yn ystod ei anterth. Dyma fan hefyd lle’r arferai pedair lôn Rufeinig gwrdd.
Gadawodd y Rhufeiniad y gaer yn 140AD. Mileniwm yn ddiweddarach, cododd y Normaniaid fwnt castell o fewn waliau Tomen y Mur yn ystod gwrthryfel Gymreig yn 1095.
Tomen y Mur mewn llên gwerin
Ceir cyfeiriadau i Domen y Mur mewn chwedloniaeth. Dyma leoliad cartref Lleu Llaw Gyffes a’i wraig Blodeuwedd. Adroddwyd eu hanes ym mhedwaredd gainc Y Mabinogi lle cyfeirir at Domen y Mur fel Castell Mur.
Golygfa ar draws Eryri
Mae golygfeydd rhagorol o Eryri i weld o Domen y Mur. I’r gogledd, gwelir y Moelwynion, i’r dwyrain yr Arenig ac i’r de y Rhinogydd.








