Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
74 milltir o arfordir trawiadol

Chewch chi ddim tirlun mwy amrywiol a dramatig nag Eryri.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i 74 milltir o arfordir trawiadol o draethau a glannau sydd yr un mor syfrdanol â’r copaon a’r coedwigoedd.

Ychydig iawn o leoedd sydd yn y byd lle mae’n bosib profi amrywiaeth mor eang o amgylcheddau o fewn pellter mor fyr i’w gilydd. Mae

Mae aberoedd prydferth yr afon Ddyfi, Mawddach a’r Dwyryd ynghyd â’r morlin ysblennydd a’r traethau tywodlyd yn cyfrannu at yr amrywiaeth eang o dirweddau yn Eryri.

Bywyd Gwyllt Arfordir Eryri
Drone photo of the Mawddach estuary
Arfordiroedd eithriadol
Mae aberoedd y Fawddach ac Afon Dyfi yn rhan o Warchodfa Biosffer Dyfi UNESCO sydd o safon amgylcheddol eithriadol. Mae gwarchodfeydd biosffer yn lefydd lle gall dulliau cadwraeth ac amgylcheddol bwysig gael eu treialu.
Wales Coastal Path signpost
Llwybr yr Arfordir
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â llwybr cyflawn di-dor ar hyd ei holl arfordir. Mae sawl rhan o’r llwybr 870 milltir yn croesi drwy Barc Cenedlaethol Eryri.
Gwefan Llwybr yr Arfordir

Twyni Tywod Morfa Harlech

Mae’r system twyni tywod ym Morfa Harlech yn un o’r systemau twyni tywod pwysicaf ym Mhrydain ac yn un o ddim ond llond llaw yng Nghymru.

Mae ardaloedd o’r fath yn dod yn lefydd fwyfwy prin.

Dyma un o drysorau naturiol cyfoethocaf Cymru sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt sydd wedi esblygu’n benodol i fyw mewn cynefin o’r fath.

Ynghyd â Morfa Dyffryn yn y de, mae’r system dwyni wedi ei ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae mannau o’r traethau wedi eu dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.