Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Croeso i brosiect deorfa Bysgod LIFE Afon Dyfrdwy!

Ydych chi erioed wedi meddwl pa newidiadau sy’n digwydd wrth i wyau pysgod ddatblygu o fod yn wyau bychan i silod mân, ac yna yn bysgod? Mae hi bron yn amhosibl gweld y datblygiadau hyn wrth iddynt ddigwydd ar wely’r afon, felly dyma gyfle arbennig i chi wylio wyau Brithyll Brown yn deor ac yn datblygu yn fyw ar eich sgrîn!

Dros yr wythnosau nesaf bydd yr wyau ffrwythlon yma welwch chi isod, sydd wedi eu lleoli yn ein deorfa dros dro yng Nghanolfan Wardeiniaid Llyn Tegid yn deor ac yn datblygu i fod yn bysgod bychain. Pan fyddant yn ddigon mawr byddant yn cael eu rhyddhau i’w cynefin naturiol yn Afon Twrch ger Llanuwchllyn lle bydd eu cylch bywyd yn parhau.

Deor-gamera 1

Deor-gamera 2

Yn anffodus, nid oes disgwyl i bob un wy ddatblygu a goroesi, felly rhan bwysig o waith Arwel a Robat y Wardeiniaid sy’n goruchwylio’r deorfeydd, fydd tynnu unrhyw wyau marw o’r tanc rhag iddynt heintio’r wyau neu silod iach.

Pan fydd y brithyll bach wedi tyfu’n ddigon mawr i’w rhyddhau i’r afon, cyn gwneud hynny bydd rhaid ymgymryd â phrofion penodol mewn labordy er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn cario unrhyw heintiau i’r stoc gwyllt cynhenid o frithyll Afon Twrch.

Pam sefydlu Deorfa Bysgod?

Mae’r prosiect hwn wedi ei ddatblygu ar gyfer plant a phobl ifanc gyda’r nod o feithrin gwerthfawrogiad a diddordeb mewn bywyd dyfrol, ecoleg afon a’r amgylchedd naturiol yn gyffredinol.

Mae’r prosiect hwn dan arweiniad Gwasanaeth Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dod o dan ymbarél ehangach prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, sef prosiect aml-bartner sydd â’r nod o drawsnewid afon Dyfrdwy a’i dalgylch drwy adfer rhannau helaeth o’r afon a’i hamgylchoedd i’w cyflwr naturiol. Os hoffech wybod mwy am waith arbennig y prosiect yma gallwch ymweld â gwefan y prosiect yma.

Diweddariadau gan y Warden
Bydd Arwel a Robat, Wardeiniaid Llyn Tegid yn cadw golwg agos ar y pysgod trwy gydol y cyfnod datblygu, a byddant yn eich diweddaru ynghylch unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol. Byddwn yn ychwanegu eu dyddiaduron fideo islaw fel mae'r prosiect yn mynd yn ei flaen.
Dyddiadur Fideo 1 (Diwrnod 3) - 13 Ionawr 2023
Dyddiadur Fideo 2 (Diwrnod 8) - 18 Ionawr 2023
Dyddiadur Fideo 3 (Diwrnod 15) - 25 Ionawr 2023
Dyddiadur Fideo 4 (Diwrnod 32) - 10 Chwefror 2023
Dod yn Fuan
Dod yn fuan