Mae Cronfa Gymunedol y Carneddau yn rhaglen grantiau newydd ar gyfer prosiectau cymunedol yn ardal y Carneddau a’r cyffiniau. Ei nod yw galluogi cymunedau’r Carneddau i ddarganfod, gwarchod a dathlu’r dreftadaeth naturiol a diwylliannol. Ariennir Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Cronfa Gymunedol y Carneddau
Mae grantiau o rhwng £200 a £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol bach i ganolig sy’n cyd-fynd ag amcanion Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Mae’r rhaglen yn agored i grwpiau a sefydliadau dielw yn ardal Carneddau a’r cyffiniau.
Panel Cronfa Gymunedol y Carneddau sy’n penderfynu pwy fydd yn derbyn y grantiau. Mae’r panel hwn yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n byw yn yr ardal ac sydd â diddordeb mewn cyfrannu at amcanion y Cynllun.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dros £1,000 yw ’r 6ed o Fedi 2023. Bydd ceisiadau o dan £1,000 yn cael eu gwerthuso ar sail dreigl.
Darllenwch y ddogfen canllawiau os ydych chi’n ystyried ceisio am grant os gwelwch chi’n dda.
Lawrlwytho Dogfen Ganllawiau (PDF)
E-bost ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb: carneddau@eryri.llyw.cymru
Pwy fydd yn gallu gwneud cais?
Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, grwpiau cymunedol a phartneriaethau, er enghraifft partneriaeth rhwng sefydliad treftadaeth a grŵp cymunedol.
Ymgeiswyr Cymwys
- Grŵp / sefydliad cymunedol neu wirfoddol
- Elusen gofrestredig
- Menter gymdeithasol neu sefydliad dielw arall
- Cyngor plwyf
- Ysgol
- Capel neu grŵp eglwys
- Awdurdod lleol
Ymgeiswyr sydd ddim yn gymwys
Ni all y canlynol wneud cais am grant Cronfa Gymunedol y Carneddau:
- Unigolion
- Busnesau preifat
- Unrhyw sefydliad arall (ffurfiol neu anffurfiol ei strwythur) sydd â’r gallu i ddosbarthu arian a/neu asedau ymhlith ei aelodau
- Ceisiadau am brosiectau na fydd o fudd i ardal y Carneddau
Esiamplau o brosiectau sy’n debygol o fod yn gymwys:
- Mentrau lles – digwyddiadau cerdded rhithiol, gweithgareddau i deuluoedd a phobl ifanc, gwybodaeth newydd am yr ardal, prosiectau sy’n helpu pobl â gallu cyfyngedig i symud cael mynediad i’r Carneddau
- Trefnu digwyddiad neu ŵyl sy’n cynnwys gwybodaeth am hanes lleol, straeon am y dirwedd, bywyd gwyllt neu grefftau traddodiadol
- Hybu celfyddydau cymunedol sy’n dathlu’r dirwedd a thraddodiadau’r Carneddau
- Sefydlu cyfle i wirfoddoli sy’n cyfrannu at nodau ac amcanion Cynlluniau Partneriaeth Tirwedd y Carneddau
- Cofnodi ac adfer safle hanesyddol
- Cynhyrchu a chyhoeddi llyfrynnau a gwybodaeth ar-lein – casgliadau o ffotograffau hanesyddol lleol, cardiau post ac atgofion