Darganfyddwch bŵer byd natur i danio’r dychymyg wrth i’r llyfr poblogaidd ‘Geiriau Diflanedig’ (The Lost Words) ddod yn fyw mewn dwy arddangosfa unigryw’r haf hwn.
Mae’r llyfr arobryn, ‘Geiriau Diflanedig’ (The Lost Words), yn defnyddio swyn-ganeuon yn ogystal â darluniau trawiadol i ailgyflwyno rhai o rywogaethau byd natur yn ôl i’n geirfaoedd a’n hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i’w gwarchod.
Yr haf hwn, mewn partneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, bydd y llyfr yn sail i ddwy arddangosfa arbennig yn Yr Ysgwrn, Eryri, ac Oriel y Parc yn Sir Benfro.
Arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Yr Ysgwrn
Arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc
Lle
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd LL41 4UW
Pryd
Arddangosfa yn agor 24 Mehefin, 2023
Nid oes angen archebu lle i weld yr arddangosfa.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.
Arddangosfa Geiriau Diflanedig
Archwilio’r berthynas rhwng iaith a byd natur.