Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ymunwch â’n gweithdy barddoniaeth dwyieithog o dan arweiniad y bardd lleol Buddug Roberts dros ddwy noson.

Mae’r Carneddau yn ffynhonnell wych o ysbrydoliaeth artistig i lawer: y dirwedd, yr hanes cyfoethog a'r traddodiadau.

Yn ystod y gweithdai hyn, byddwch yn dysgu am ac yn creu barddoniaeth hefo'ch gilydd, wedyn byddwch yn gallu rhoi rhwydd hynt i'ch creadigrwydd wrth i chi fynd ati i gyfansoddi darn personol o farddoniaeth.

Bydd ein ffrindiau o Wildkindness Films hefo ni i recordio’r cerddi yn opsiynol, gan ddefnyddio eich llais chi neu lais rhywun arall, wedyn defnyddir y rhain i greu ffilm i ddathlu’r Carneddau.

Te a choffi ar gael.

Pryd
Dylai mynychwyr fynychu'r ddwy sesiwn ganlynol:
6 Rhagfyr, 2023—18:00-20:00
7 Rhagfyr, 2023—18:00-20:00

Lle
Neuadd Gymunedol Trefriw

Arweinydd y sesiwn
Buddug Roberts

Gwybodaeth bwysig
Does dim man parcio ar gael wrth y neuadd.

Cefnogwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Lottery heritage fund logo

Archebu lle
Sesiwn
Rhagfyr 06 2023 - 18:00 - 20:00 (18:00 - 20:00)
Nifer o fynychwyr

Cerddi o’r Graig: Gweithdy Barddoniaeth

Gweithdy ysgrifennu barddoniaeth.

Category: