Gweithdy deuddydd dan arweiniad yr artist adnabyddus, Luned Rhys Parri. Dewch i greu dresel fach drwy gyfrwng papier-mâché yn steil unigryw Luned a than ei llaw medrus.
Bydd y gweithdy yma’n digwydd dros ddau ddiwrnod, ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 22 a 23 Hydref. Gofynnir i fynychwyr ddod a phecyn bwyd efo nhw a darperir paneidiau a chacennau fel rhan o’r pris.
Arweinydd y Sesiwn
Luned Rhys Parri
Lleoliad
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Sesiwn
10yb-4yh ar 22ain a'r 23ain o Hydref
Lleoedd
Cyfanswm o 12 lle ar gyfer y deuddydd ac mae’n angenrheidiol mynychu’r ddwy sesiwn i gwblhau’r darn
Pris
£75
Gwybodaeth Bellach
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn ddwyieithog yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd ac estynnir croeso cynnes iawn i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel.
Trefnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
This event has expired.
Mae Gen i Gwpwrdd Cornel
From: £75.00
Gweithdy celf deuddydd dan arweiniad yr artist adnabyddus, Luned Rhys Parri.