Dewch i archwilio’r amrywiaeth eang o blanhigion, ffyngau, rhedyn, mwsoglau, adar a chennau sydd yn gwneud yr ardal yma o goedwigoedd glaw Celtaidd mor unigryw. Byddwn yn crwydro ar hyd Afon Gamlan yng nghoedwig dderw Coed Ganllwyd cyn mwynhau taith gylchol uwchlaw’r goedwig ar odre’r Rhinogydd. Byddwn yn edrych ar gasgliad eang o rywogaethau fydd yn siŵr o fod at ddant pawb!
Bydd y daith yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg lefel mynediad.
Bydd angen dod a phecyn bwyd a gwisgo’n addas ar gyfer diwrnod allan yn yr awyr agored. Dewch a dillad dal dŵr rhag ofn.
Lleoliad: Coed Ganllwyd.
Man cyfarfod: Maes parcio Ganllwyd (gyferbyn a’r Neuadd Gymunedol).
Amser: 10:00-14:00.
Llefydd ar gael: 15
This event has expired.
Digwyddiad Llysgennad Eryri – Taith Gerdded Bywyd Gwyllt
Dewch i archwilio’r amrywiaeth eang o blanhigion, ffyngau, rhedyn, mwsoglau, adar a chennau sydd yn gwneud yr ardal yma o goedwigoedd glaw Celtaidd mor unigryw.