Dyma gyfle i ddod i ddysgu am ddulliau a deunyddiau y gellir eu defnyddio i wella effeithlonrwydd thermol eich cartref neu adeilad, gan ddefnyddio deunyddiau athraidd naturiol ac anwedd. Ar y diwrnod byddwch yn cael hyfforddiant ymarferol mewn amrywiaeth o ddeunyddiau ac yn cael y cyfle i siarad am eich prosiect penodol gydag ymarferwr profiadol.
Sesiynau
Bydd y cwrs undydd yn cael ei gynnal ar dri achlysur gwahanol. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu i gwblhau'r cwrs:
Gwener, 9 Mehefin
Sadwrn, 10 Mehefin
Gwener, 23 Mehefin
Bydd sesiynau'n cychwyn am 10yb ac yn gorffen am 4yp. Dewch a hên ddillad i'r sesiwn gyda chi. Bydd offer diogelwch ac adeiladu yn cael ei ddarparu. Dewch â chinio a lluniaeth gyda chi.
Ble
The Natural Building Centre Ltd
Ffordd Betws
Llanrwst
Conwy
LL26 0PU
Mae parcio ar gael ar y safle.
Gweld y lleoliad ar what3words
Gweld y lleoliad ar Google Maps
Bydd y cwrs undydd yn trafod y materion cyffredin sy’n gysylltiedig â’r adeiladau carreg solet sydd wedi’u hadeiladu’n draddodiadol, sy’n nodweddiadol o’r Parc Cenedlaethol. Byddwn yn trafod y rhesymau pam fod gan rai o'r adeiladau hyn broblemau lleithder a'u bod yn anodd eu gwresogi. Yna byddwn yn edrych ar ffyrdd o unioni rhai o'r materion hyn gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a thraddodiadol a fydd yn caniatáu i'r adeiladau anadlu a pherfformio'n well.
Bydd digon o gyfle i roi cynnig ar ddefnyddio’r gwahanol ddeunyddiau, a fydd yn cynnwys plastrau calch wedi’u hinswleiddio, inswleiddiad ffibr naturiol a deunyddiau amgen ar gyfer inswleiddio lloriau solet.
Erbyn diwedd y dydd bydd gan y rhai sy'n mynychu'r cwrs well syniad o ba ddeunyddiau sy'n ategu priodweddau carreg hŷn. A byddant wedi cael y cyfle i drafod eu prosiectau eu hunain yn ystod y dydd a rhoi cynnig ar ddeunyddiau a dulliau penodol a allai fod yn addas ar gyfer eu prosiect.
Trefnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a The Natural Building Centre Ltd.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg, ond bydd modd cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwella Effeithlonrwydd Ynni Adeiladau Traddodiadol
Cwrs undydd ar sut i wella effeithlonrwydd thermol eich cartref.