Ydych chi'n fusnes bwyd a diod neu lety sy'n gweithredu ger Yr Wyddfa?
Hoffai Awdurdod y Parc Cenedlaethol eich cefnogaeth ar syniad newydd cyffrous—a allwn ni gydweithio i wneud Yr Wyddfa yn fynydd 'di-blastig’ cyntaf y byd?
Mwy am Yr Wyddfa 'Ddi-blastig'
Ymunwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gyfer lansiad Cynllun Busnes ‘Yr Wyddfa Ddi-blastig’. Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn cynnwys cyflwyniad a thrafodaeth am ddichonoldeb ‘Yr Wyddfa Ddi-blastig’. Yn ystod y sesiwn byddwn yn amlinellu ein syniadau cychwynnol, a hoffem i chi ein helpu i ddatblygu’r weledigaeth fel y gallwn ni i gyd ddechrau ar y ‘Llwybr Di-blastig’ i leihau plastigion untro, creu economi ymwelwyr ffyniannus, gynaliadwy a diogelu dyfodol Yr Wyddfa.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd a ffair fasnach fach gyda chyflenwyr lleol yn arddangos opsiynau di-blastig. Bydd cyfle i fynychwyr ddysgu am fanteision ychwanegol ymuno ar y ‘Llwybr Di-blastig' yn ogystal â derbyn pecyn anrhegion.
Pryd
24 Ebrill, 2023
2pm—4pm
Lle
Gwesty'r Royal Victoria, Llanberis
Lluniaeth ysgafn ar gael
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Lansiad: Cynllun Busnes Yr Wyddfa Ddi-blastig
Ydych chi’n fusnes bwyd a diod neu lety sy’n gweithredu ger Yr Wyddfa? Hoffai Awdurdod y Parc Cenedlaethol eich cefnogaeth chi.