Mae’r Ysgwrn yn le arbennig i brofi celfyddyd o unrhyw fath a lle gwell i dreulio fin nos yn gwrando ar bedwarawd gwerin Pedair?
Dewch i gael eich swyno gan bedair o gerddorion gwerin mwyaf blaenllaw Cymru, sef Meinir Gwilym, Sian James, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard.
Bydd bwyd ar gael gan gwmni lleol Cig Eryri ac mae croeso i chi ddod ag alcohol efo chi. Bydd coffi, te, diodydd meddal a chacennau ar gael i’w prynu o siop goffi’r Ysgwrn.
Sesiwn
7.30 pm ar nos Iau, 1 Medi
Lleoedd
60
Pris
£12 y pen
Trefnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Trefnir gan Gyfeillion Yr Ysgwrn gyda chefnogaeth gan gynllun Noson Allan a Chyngor Gwynedd.
This event has expired.
Pedair yn Yr Ysgwrn
From: £12.00
Noson o gerddoriaeth werin yng nghwmni Pedair.