Taith y mis ar gyfer mis Tachwedd yw taith gerdded Rhaedr Fawr drwy Goedydd Aber gyda golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau, ac yna’n ôl drwy dir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn lle ceir golygfeydd panoramig o Ynys Môn a’r Fenai. Mae mannau o ddiddordeb yn cynnwys olion archeolegol a chysylltiadau â llywodraethwyr olaf Gwynedd, oedd â’u llys yn Abergwyngregyn yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Manylion y daith 

  • Dyddiad: Dydd Mercher, Tachwedd 27ain.
  • Amser cyfarfod: 10:30yb
  • Lleoliad cyfarfod: Maes parcio Bont Newydd (SH66471)
  • Amser: Tua 3 awr i gwblhau'r daith
  • Hyd: 6.5km  / 4 milltir
  • Math o lwybr: Cylchdaith
  • Cyfle am bicnic ar y ffordd; dewch â bwyd gyda chi!

Arweinydd y daith
Alan Pritchard, Warden Ardal Carneddau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

 

 

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Taith Gerdded y Mis: Cylchdaith Rhaeadr Fawr

Taith y mis ar gyfer mis Tachwedd yw taith gerdded Rhaedr Fawr drwy Goedydd Aber gyda golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau, ac yna’n ôl drwy dir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn lle ceir golygfeydd panoramig o Ynys Môn a’r Fenai.

Category: