Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Taith Gerdded y Mis hwn (Mai 2023) yw Craig y Ddinas ac fe'i dewiswyd gan David Jones, Uwch Warden De'r Parc.
Nodwch y bydd y warden yn addasu'r daith i fod yn gylchdaith.
Mae Craig y Ddinas yn fryngaer o’r oes haearn sydd wedi’i lleoli ar graig anghysbell, 350m uwch lefel y môr. Saif y fryngaer mewn lleoliad dramatig gyda golygfeydd gwych o ardal Ardudwy.
Ble
Craig y Ddinas, Dyffryn Ardudwy
Parcio a chyfarfod ym Maes Parcio Cors y Gedol
Gweld y maes parcio ar what3words
Gweld y maes parcio ar Google Maps
Pryd
Dydd Gwener, May 26
Cyfarfod ym Maes Parcio Cors y Gedol erbyn 9:30am
Taith yn cychwyn am 10:00am
Y Daith
Pellter: 5 milltir
Hyd y daith: Dim mwy na 4 awr
Bydd y warden yn addasu'r daith i fod yn gylchdaith
Tywysydd y Daith
David Jones
Uwch Warden De'r Parc, Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith Warden y Mis: Craig y Ddinas
Ymunwch a David Jones, Uwch Warden De’r Parc ar daith dywys o amgylch Craig y Ddinas.