Dewiswyd y daith gan Ioan Davies, Warden Ardal Betws y Coed
“Taith o Ddolwyddelan i Gwm Penamnen sydd ganddom mis yma, Cwm prydferth gyda golygfeydd anhygoel o Moel Siabod a mynyddoedd eraill yn y cefndir yn ogystal a Chastell Dolwyddelan. Cawn gerdded at gefn y Cwm gyda’r golygfeydd a throi yn ôl ar y gylchdaith i lawr ffordd Rufeinig Sarn Helen, gan hefyd fynd heibio Tai Penamnen, hen adeilad or 15fed canrif oedd yn gartef i Angharad James cyn cyrraedd nôl i Ddolwyddelan”.
Ble
Maes parcio gorsaf Dolwyddelan
Pryd
Chwefror, 11fed
Cyfarfod am 9:00yb. Y daith i gychwyn am 9.30yb.
Hyd y Daith
9.5km (3 awr)
Cliciwch yma am fanylion llawn y llwybr.
This event has expired.
Taith Warden y Mis – Cwm Penamnen
Dewiswyd y daith gan Ioan Davies, Warden Ardal Betws y Coed