Bydd taith warden y mis yma'n ymweld ag ardal Betws y Coed a llyn mynyddig Llyn Elsi.
Ymunwch â Simon Roberts, Uwch Warden y Gogledd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wrth iddo'ch tywys ar hyd y gylchdaith hynod hon:
"Fe gewch eich gwobrwyo a golygfeydd anhygoel o Goedwig Gwydyr ar gylchdaith Llyn Elsi, yn ogystal â'r llyn ei hyn wrth gwrs. Bydd golygfeydd trawiadol o rhai o gopaon Eryri i'w gweld wrth lan y gronfa ddŵr gan gynnwys Moel Siabod.
Wedi ei hadeiladu ym 1914, mae cronfa ddŵr Llyn Elsi yn darparu dŵr i bentref Betws y Coed ac mae cofgolofn wedi ei chodi ar un pen o'r llyn i gofio'r Arglwydd Ancaster a gynigodd y gronfa fel rhodd i'r pentref.
Wrth i chi ddychwelyd i lawr o'r llyn drwy goedwig fythwyrdd, cewch eich gwobrwyo a golygfeydd godidog o Betws y Coed a Dyffryn Conwy."
Y Daith
Cylchdaith Llyn Elsi, Betws y Coed
Pellter: Oddeutu 4 milltir
Amser: Oddeutu 3 awr
Graddfa: Anodd/Llafurus
Pryd
17 Awst, 2023
Taith yn cychwyn am 10:30am
Cyfarfod yng Nghanolfan Gwybodaeth Betws y Coed am 10:00am
Gweld y man cyfarfod ar What 3 Words
Gweld y man cyfarfod ar Google Maps
Gwybodaeth bwysig cyn archebu lle
Sylwer bod y llwybr hwn wedi'i raddio fel llwybr 'Anodd/Llafurus' gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Nid yw ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol gyda lefel dda o ffitrwydd. Mae sgiliau llywio yn hanfodol. Bydd y daith yn cynnwys bryniau serth a thir garw.
Mae’r llwybr o amgylch Llyn Elsi yn gymharol wastad, fodd bynnag mae’r llwybr troed i fyny at y llyn yn esgyn yn serth o Fetws y Coed â’r llwybr troed i lawr o’r llyn yn serth hefyd. Mae dillad ac offer cerdded bryniau yn hanfodol.
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith Warden y Mis: Cylchdaith Llyn Elsi
Ymunwch â Simon Roberts ar gylchdaith o amgylch Llyn Elsi.