Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Bydd taith warden y mis yma'n ymweld ag ardal Abermaw ar gyfer cylchdaith Panorama.

Ymunwch â Robat Davies, Warden Dolgellau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wrth iddo'ch tywys ar hyd y gylchdaith hynod hon:

"Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, un o nodweddion Taith Panorama yw ei golygfeydd godidog. Yn ystod y daith 6.5km yma bydd golygfeydd o gadwyn mynyddoedd Cadair Idris, yr afon Fawddach ag hyd yn oed golwg lawr am fae Ceredigion os yn lwcus!

Mae’r gylchdaith yn un lafurus mewn rhannau, gyda llethrau serth a thir anwastad o dan draed, felly cofiwch baratoi o flaen llaw drwy wisgo dillad priodol a lawrlwytho neu argraffu map er mwyn dilyn y llwybr. Sicrhewch eich bod wedi edrych ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn oherwydd gall amodau newid yn sydyn!"

Y Daith
Taith Panorama, Abermaw
Pellter: 6.5km
Amser: Oddeutu 2.5–3 awr
Graddfa: Anodd/Llafurus

Gweld y daith

Pryd
16 Medi, 2023
Taith yn cychwyn am 10:00am
Cyfarfod ym maes parcio Taith Panorama am 09:30am

Gweld y maes parcio ar What 3 Words
Gweld y maes parcio ar Google Maps

Gwybodaeth bwysig cyn archebu lle
Sylwer bod y llwybr hwn wedi'i raddio fel llwybr 'Anodd/Llafurus' gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Nid yw ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol gyda lefel dda o ffitrwydd. Mae sgiliau llywio yn hanfodol. Bydd y daith yn cynnwys bryniau serth a thir garw.

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Taith Warden y Mis: Llwybr Panorama

Ymunwch â Robat Davies ar daith hanesyddol Llwybr Panorama yn Abermaw.

Category: