Diddori mewn archeoleg? Mae gennym gyfle gwych ar y gweill i ymwneud â gwaith maes archeolegol. Ymunwch â ni am un (neu fwy) o'n diwrnodau cloddio.
Ar yr ucheldir uwchben Llanfairfechan a Phenmaenmawr mae tirwedd brin o bwysigrwydd rhyngwladol, a chwarelwyd fwy na 5,000 o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod amser a elwir yn Neolithig.
Defnyddiwyd y graig sy'n brigo ar y llethrau hyn i gynhyrchu bwyeill carreg hardd, a gyfnewidiwyd rhwng cymunedau ac sy'n cael eu darganfod ledled Prydain hyd heddiw. Mae'r bwyeill hyn hefyd wedi cael eu darganfod yn lleol, gan gynnwys enghreifftiau anorffenedig a’r naddion a gynhyrchwyd yn ystod y broses o greu (cnapio) bwyell.
Rydym yn ymchwilio i'r dirwedd lle gynhyrchiwyd y bwyeill cerrig hyn. Mae'r cam hwn o'r gwaith yn cynnwys cloddio cyfres o byllau prawf - tyllau 1m sgwâr - i ymchwilio’r raddfa o waith cynhyrchu bwyeill.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y gwirfoddolwyr o dan oruchwyliaeth archaeolegwyr.
Arweinwyr sesiynau
John Roberts, Archeolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Jane Kenney, Archeolegydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Nid oes angen profiad
Mae’r holl offer yn cael ei ddarparu
Addas i 18+
Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cynnig lleoedd i rai dan 18 oed.
Am ddim
Noddwyr y digwyddiad
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Cadw a Chronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol.
Sesiynau
Bydd diwrnodau gwirfoddoli yn cael ei cynnal ar:
Dydd Llun, 25 Medi
Dydd Mawrth, 26 Medi
Dydd Mercher, 27 Medi
Dydd Iau, 28 Medi
Dydd Gwener, 29 Medi
Dydd Llun, 2 Hydref
Dydd Mawrth, 3 Hydref
Cynhelir pob sesiwn rhwng 9:30–16:30.
Lleoliad
Ty’n y Llwyfan, Llanfairfechan
Gweld y lleoliad ar what3words
Gweld y lleoliad ar Google Maps
Mae’r gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer pobl â lefelau ffitrwydd cymedrol i dda. Mae’r gwaith yn digwydd mewn cae y gellir ei gyrraedd ar hyd taith gerdded tua 500m i fyny’r allt ar lwybr garw. Mae tir y caeau yn anwastad a gall fod yn gorsiog mewn mannau. Bydd y gwaith y tu allan, yn yr awyr agored, felly mae angen gallu ymdopi â’r tywydd.
Tirwedd Bwyeill Neolithig – Archaeoleg Gymunedol
Diwrnodau gwirfoddol archaeolegol.