Ymunwch ag Arwel Morris, Warden Ardal Llyn Tegid a Phenllyn, ar daith dywys o Gefnddwygraig, Y Bala.
Bydd Arwel yn eich arwain ar hyd yr amddiffynfa llifogydd newydd ym mhen gogleddol Llyn Tegid, ac yna ar hyd dringfa gymedrol drwy Goed Penybont. Ar ôl y ddringfa, cewch eich tywys ar hyd Mynydd Cefnddwygraig i Rosygwaliau cyn cyrraedd yn ôl i’r Bala i gwblhau’r daith.
Mae’r daith yn cynnig golygfeydd o Lyn Tegid, tref y Bala ac, ar ddiwrnod clir, Yr Wyddfa.
Y Daith
Cylchdaith Y Bala, Cefnddwygraig a Rhosygwaliau
Pellter: Oddeutu 2.5 milltir
Hyd y daith: Oddeutu 2.5 awr
Mae'r daith yn cynnwys dringfeydd cymedrol
Nodwch fod y llwybr hwn wedi ei raddio fel llwybr Hamddenol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r daith yn addas ar gyfer uniolgion sydd â lefel ffitrwydd cymedrol. Mae’r dirwedd dan draed yn gallu cynnwys llwybrau gwledig tonnog sydd heb wyneb. Mae posibilrwydd y bydd grisiau mewn rhai mannau. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded a dillad dal dŵr.
Pryd
Dydd Gwener, 21 Gorffennaf
Cyfarfod ym Maes Parcio Blaendraeth Llyn Tegid am 09:30am
Taith gerdded i gychwyn am 10:00am
Gweld y man cyfarfod a'r maes parcio ar What 3 Words
Gweld y man cyfarfod a'r maes parcio ar Google Maps
Tywysydd y Daith
Arwel Morris, Warden Ardal Llyn Tegid a Phenllyn
Canslo ac ymholiadau
Os hoffech chi ganslo eich lle ar y daith neu wneud ymholiad ynglŷn â'r digwyddiad, cysyllwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant yr Awdurdod.
Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith Dywys y Mis: Cefnddwygraig, Y Bala
Ymunwch ag Arwel Morris ar daith gerdded o amgylch Cefnddwygraig, Y Bala.