Yn anffodus ma’r sesiwn yma yn llawn. Os hoffech dderbyn gwybodaeth am sesiynau tebyg yn y dyfodol e-bostiwch yrysgwrn@eryri.llyw.cymru
Dewch i fwynhau diwrnod yn y goedwig gyda’r teulu yn Yr Ysgwrn. Bydd cyfleoedd i ddysgu rhai sgiliau byw yn y gwyllt, chwilota am fwyd, coginio byrbrydau ar dân a mwynhau amser allan ym myd natur. Yn addas ar gyfer plant rhwng 2 a 12 oed.
Dyddiad ac amser
Dydd Sadwrn, 15 Hydref
Sesiwn yn cychwyn am 13:30 ac yn gorffen am 15:30
Lleoliad
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Lleoedd yn y sesiwn
15
Byddwch angen:
- Dillad addas ar gyfer y tywydd gan gynnwys esgidiau cerdded neu 'wellies'
- dillad glaw
- eli haul
- diod
- byrbrydau
- unrhyw feddyginaieth y byddwch ei angen
Bydd yr artist Gwenllian Spinks yn Yr Ysgwrn ar yr un diwrnod yn cynnal sesiynau addurno mainc natur gyda darluniau stensil o rywogaethau natur cynhenid. Sesiynau galw heibio fydd rhain, felly dim angen archebu. Bydd Gwenllian ar y safle rhwng 11am–4pm.
Trefnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
This event has expired.
Ysgol Goedwig Yr Ysgwrn
Dewch i fwynhau diwrnod yn y goedwig gyda’r teulu.