Bydd Yr Ysgwrn yn agor y drws yn rhad ac am ddim am ddiwrnod cyfan ym mis Medi fel rhan o weithgareddau Drysau Agored 2022. Os ydych yn dymuno mynychu taith dywys yn ystod y dydd, mae’n gwbl ofynnol i chi archebu lle ymlaen llaw. Ni gwarentir lle ar daith dywys oni bai eich bod wedi archebu lle ymlaen llaw. Serch hynny, bydd cyfle i bawb ymlwybro o amgylch y safle a mwynhau naws ac arddanangosfeydd Yr Ysgwrn yn rhad ac am ddim heb archebu lle ymlaen llaw.
Sesiwn
Bydd teithiau tywys yn cychwyn ar yr awr o 11-4 o’r gloch
Sadwrn, 24 Medi 2022
Lleoedd
20 lle ar bob taith dywys
Pris
Am ddim
Gwybodaeth bellach
Cynhelir y dyddiau agored fel rhan o raglen Drysau Agored 2022 a drefnir gan Cadw fel rhan o’r fenter Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd.
Mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw os dymunir mynychu taith dywys o ffermdy’r Ysgwrn yn ystod y dydd.
This event has expired.
Yr Ysgwrn: Drysau Agored 2022
Bydd Yr Ysgwrn yn agor y drws yn rhad ac am ddim am ddiwrnod cyfan ym mis Medi fel rhan o weithgareddau Drysau Agored 2022.