Ers 1987 mae Emyr Williams wedi gweithio mewn amrywiol swyddi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a bydd yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr ddiwedd mis Mehefin.

 

Dechrau’r daith . . .

Dechreuodd Emyr Williams ei yrfa gyda’r Awdurdod fel Swyddog Cyswllt Amaeth Cynorthwyol, rôl y bu’n gyfrifol amdani hyd 1996. Yn y cyfnod hwn gweithiodd yn agos gyda ffermwyr a rheolwyr tir i feithrin ddealltwriaeth o amcanion y Parciau Cenedlaethol a datblygu ymarferion amaethyddol oedd yn cyd-fynd a’r weledigaeth hynny.

Wrth gamu fyny fel Swyddog Cyswllt Amaethyddol rhwng 1996 a 2007 parhaodd gyda’r gwaith gan weithredu rhaglenni a phrosiectau megis Rhaglen Tir Eryri a Chynllun 5b Gogledd Eryri er mwyn sicrhau cysondeb amaethyddol rhwng gogledd a de’r Parc Cenedlaethol.

Rhwng 2007 a 2014 bu’n Gyfarwyddwr Rheoli Tir yr Awdurdod ble bu’n canolbwyntio ar weithio yn fwy strategol gan y byddai gweithio mewn partneriaethau yn mynd i gyflawni mwy yn hir dymor na allai’r Awdurdod wneud ar ben ei hunain. Yn y cyfnod yma bu’n allweddol yn sicrhau pryniant Yr Ysgwrn er mwyn ei sicrhau ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol, yn ogystal a chydweithio â phartneriaid i wella’r ddarpariaeth i ddefnyddwyr trwy drawsnewid Canolfan Cwm Idwal.

 

Degawd o lwyddiannau fel Prif Weithredwr . . .

Yn 2014 daeth Emyr Williams yn Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dros y ddegawd diwethaf mae wedi arwain ar nifer o fentrau a phrosiectau sylweddol sydd wedi cael effeithiau cadarnhaol hirdymor yn Eryri.

Bu’n goruchwylio trawsnewidiad Yr Ysgwrn, Cartref y Bardd Hedd Wyn fel canolfan dreftadaeth o statws rhyngwladol er mwyn dathlu rhan o hanes a diwylliant Eryri yn ogystal â phrosiectau eraill Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar y Carneddau a phrosiect LIFE megis Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.

Yn ogystal â hyn sefydlwyd ffyrdd newydd o weithio mewn partneriaethau drwy Cynllun Eryri oedd yn manylu ar gydweithio a datblygu polisiau cynalwadwy. Mae’n credu’n gryf mai dyma’r ffordd ymlaen i warchod tirweddau Eryri a mynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu Parciau Cenedlaethol.

 

Dyfodol Eryri . . .

Mae’n angerddol dros Barc Cenedlaethol Eryri, er nad oedd ei fryd yn wreiddiol am arwain yr Awdurdod, teimlai fod yn ddyletswydd arno warchod harddwch naturiol a threftadaeth hanesyddol Eryri. Daw hyn o’i wreiddiau teuluol ac er nad yw’n hoff o flaenoriaethu unrhyw ardal o Eryri dros y llall, Ceunant Llennyrch sydd yn agos at ei galon oherwydd hanes ei deulu a bod yna rhywbeth unigryw iddo am y lle.

Wrth gydbwyso ein cymunedau a thwristiaeth yn dilyn profiadau ar ôl y pandemig nododd fod y tymor ymwelwyr yn hollbwysig i economi’r Parc Cendlaethol a bod cymunedau yn deall hynny ond bod ymwelwyr angen parchu ein trigolion. Er bod sialensau diweddar megis Covid a’r cynnydd mewn ymwelwyr wedi herio isadeiledd ein ardaloedd mae’n ffyddiog trwy reoli hyn yn synhwyrol a thrwy weithio mewn partneriaeth y bydd ein cymunedau yn atgyfnerthu i gofleidio’r cyfleoedd hyn i fod yn fwy cydnerth. Mi fydd gweithredu Erthygl 4 a dyfodiad tebygol y dreth twristiaeth yn gefnogaeth yn y maes hwn i gymunedau Eryri.

Bu’n angerddol am bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg a diwylliant Eryri gan nodi mai dyma un o rinweddau arbennig yr ardal a phwysleisio pwysigrwydd y gwaith gwarchod enwau lleoedd er mwyn amlygu’r hyn sy’n bwysig i’r Parc Cenedlaethol fod yn ardal unigryw.

 

Yr heriau . . .

Trwy ei yrfa mae Emyr Williams wedi gorfod ymgymryd â nifer o sialensau gan gynnwys clwyf y traed a’r genau, yr her newid hinsawdd, cyfyngiadau cyllid, covid-19 a’r mater fod pobl yn gadael cefn gwlad.

Hoffai ddiolch i’r holl staff, aelodau a partneriaid am eu gwydnwch a’u dyfalbarhad drwy’r heriau hyn a’r cryfder mae pobl wedi dangos drwyddynt.

Mewn neges ffarwelio, mae’n atgyfnerthu’r angen i randdeiliaid weithio gyda’i gilydd i gyflawni anghenion Eryri – ei amgylchedd a’i chymunedau.