Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Lle o falchder ac o berthyn sy’n fwrlwm o ddiwylliant Cymreig

Mae tirwedd Eryri wedi bod yn gefnlen i gelfyddyd a diwylliant Cymreig ers canrifoedd.

An artist work at her kiln
Ysbrydoli Celfyddyd
Mae tirwedd syfrdanol Eryri wedi ysbrydoli celfyddyd o bob math ers cyn cof. Does dim rhyfedd bod artistiaid o bob cwr o’r byd yn mynd ati i bortreadu ehangder tirwedd Eryri ar gynfas, mewn cân ac mewn barddoniaeth.
Darganfod Celfyddyd
Cader Idris sign stands along Snowdonia National Park emblem
Cadarnle i'r Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn ganolog i ddiwylliant unigryw a bywiog Eryri ac i’w chlywed yn naturiol yn y cymunedau. Mae hi’n iaith sy’n rhan o hunaniaeth yr ardal yn ogystal â hunaniaeth y bobl.
Yr Iaith Gymraeg yn Eryri
A rock musician plays at
Diwylliant Fywiog ac Unigryw
Mae cymunedau bychain Eryri yn gartrefi i ddiwylliant byrlymus o draddodiadau, celfyddyd a chymdeithasau Cymreig. Yma, mae iaith a diwylliant yn plethu i greu hunaniaeth fywiog ac unigryw
Gwilym Bowen Rhys: Llinell Gul Eryri
Snowdonia National Park boundary sign on the road to Nantlle
Cymunedau Eryri 
Mae yna deimlad cryf o le ac o berthyn i le ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cymunedau sydd ar hyd a lled Eryri yn gymunedau Cymreig, agos atoch chi, sydd â balchder yn eu hiaith, eu diwylliant a’r ardal y maen nhw’n ei alw’n gartref. 
Darganfod Cymunedau Eryri
Cartref i ddiwylliant, iaith a chelfyddyd

Mae tirwedd Eryri yn gefnlen i ddiwylliant, iaith a chelfyddyd arbennig sydd yr un mor werthfawr â’r copaon aruthrol a’r adfeilion hanesyddol hudolus.

Eisteddfodau
Mae Eisteddfodau lleol wedi eu cynnal yng nghymunedau Eryri ers ymhell dros ganrif. 
Enwau lleoedd
Mae llawer o enwau lleoedd Cymraeg y Parc yn dwyn i gof fytholeg neu lên gwerin sy’n tarddu o’r ardal honno.
Yr Iaith Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf i dros 58% o boblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hi i’w gweld yn amlwg yn yr enwau lleoedd ac i’w chlywed o ddydd i ddydd yn nhrefi a phentrefi’r ardal.
Ysbrydoli'r celfyddydau
Roedd yr artist enwog, William Turner, yn aml yn ymweld ag Eryri i baentio rhai o olygfeydd enwocaf yr ardal. 
Pobol Eryri
Mae pobol Eryri wedi gwneud gwahaniaeth cymdeithasol, crefyddol a diwylliannol ar draws y byd.
Darganfod Pobol Eryri