Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Iaith byw a bod Eryri

Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop ac mae hi’n rhan annatod o fyw a bod nifer fawr o drigolion Eryri.

Cadarnle i’r Gymraeg

Mae Eryri’n gadarnle i’r Gymraeg.

Yma, mae’n iaith fyw, iaith bywyd pob dydd, iaith gwaith ac iaith addysg. Mae’n amlwg mewn enwau lleoedd lleol, bywyd gwyllt, yn ein hanes, ac yn rhan annatod o dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal.

Mae gwreiddiau’r Gymraeg yn ddwfn ym mhridd Eryri. Dyma iaith arweinwyr fel Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr. Dyma iaith addoliad ac Eisteddfodau. Dyma’r iaith y mae llawer o’n grwpiau cerddoriaeth boblogaidd yn dewis canu ynddi, gan roi ardal y Parc Cenedlaethol ar y map.

A dyma’r iaith y mae’r genhedlaeth iau yn ei chofleidio gyda’r manteision o weithio, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg.

Ond pery’r Gymraeg yma; hi yw cyweirnod y symffoni gudd sy’n hwsmona’r erwau hyn. Hi biau Eryri...—Ifor ap Glyn

Hanes yr Iaith

Gelwir iaith y bobl gyntaf i fyw yn Ewrop yn Proto-Indo-Ewropeaidd, ac o’r iaith honno yr esblygodd y mwyafrif o’r ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg.

Yn ôl sawl hanesydd daeth yr iaith Geltaidd i Brydain tua 600 CC. O’r fersiwn yma o’r Gelteg y tarddodd Y Frythoneg, ac o’r Frythoneg, y daeth y Gymraeg.

Mae’r Gymraeg wedi gorfod cystadlu â’r Lladin, Ffrangeg-Normanaidd a’r Saesneg ar hyd yr oesoedd, ac wedi llwyddo i oroesi.

Bellach, mae gan y Gymraeg statws warchodedig drwy gyfrwng deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan 58% o boblogaeth Eryri, gyda’r ganran mor uchel â 85% mewn rhai cymunedau.
Yr Iaith Gymraeg

Mae’r Gymraeg wedi goroesi sawl bygythiad ar hyd ei hoes ond yn parhau i fod yn famiaith i lawer o gymunedau Eryri heddiw.

Mae un o’r enghreifftiau cynharaf o destun cwbl Gymraeg i’w gweld ar garreg fedd sy’n dyddio o 700 OC yn Eglwys Sant Cadfan yn Nhywyn.
Mae’r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel iaith gynhenid gan UNESCO.
Mae rhan helaeth o ysgolion y Parc Cenedlaethol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ugain ffordd wahanol o ddweud ‘ie’ yn y Gymraeg, yn dibynnu ar y cyd-destun, ond dim ond un ffordd o ddweud ‘na’.
Tŷ Mawr Wybrnant
Yn Nhŷ Mawr Wybrnant yng Nghoedwig Gwydir, Betws-y-Coed cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan ym 1588. Dyma garreg filltir bwysig, gan ei fod yn caniatáu i’r Cymry ddarllen y Beibl yn eu mamiaith a thrwy hynny, roi help llaw i’r Gymraeg oroesi.
Darganfod Tŷ Mawr Wybrnant