Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Enwau sy’n deillio o’r tir ac o’r bobl

Mae nodweddion unigryw tirwedd Eryri wedi siapio enwau tai, caeau, pentrefi a threfi’r Parc Cenedlaethol.

Mae’n rhaid gwarchod a pharchu’r cyfoeth o enwau lleoedd unigryw sydd yn Eryri.

Capel, carreg, caer, cil, coed, cwm

Mae dysgu a deall am enwau lleoedd yn gallu dangos y berthynas annatod rhwng tir, diwylliant a iaith Eryri.

Mae enwau lleoedd yn drysorfa sy’n adrodd stori Cymru ac yn cysylltu heddiw gyda’r bobl fu’n byw yn ardal Eryri ar hyd y canrifoedd.

Gwaun, garth, glas, gwyn, glan

Wrth edrych ar enwau lleoedd, bron bod modd ail greu’r bywyd bob dydd, y trafferthion, y brwydrau a’r gogoniant fu yn y lleoedd hyn.

Deall Enwau Lleoedd

Mae gan lawer o enwau lleoedd Cymru elfennau sy’n gyffredin gydag ystyr arbennig.

  • Caer
    Lle â chaer neu gastell, er enghraifft Caernarfon a Chaerdydd.
  • Aber
    Lle ble ceir ceg afon, er enghraifft Aberdyfi ac Abergwyngregyn.
  • Llan
    Lle ag eglwys ynddi, er enghraifft Llanuwchllyn a Llanaber.
  • Rhyd
    Lle â rhyd ynddi, er enghraifft Rhydymain a Rhyd Ddu.
  • Pont
    Lle â phont ynddi, er enghraifft Pont Cyfyng a Pont-y-pant.
  • Betws
    Gair sy’n deillio o’r Hen Saesneg Anglo-Sacsonaidd am dŷ gweddi. Mae Betws-y-coed a Betws Garmon yn enghreifftiau o’r defnydd o ‘Betws’.
  • Cwm
    Darn o dir isel rhwng mynyddoedd, er enghraifft Cwm Ystradllyn a Chwm Pennant.
  • Nant
    Lle â nant yn rhedeg drwyddi, er enghraifft Nant Peris a Nant Gwynant.

 

Enwau lleoedd a’u tarddiad

Crëwyd rhai o’r enwau lleoedd yn Eryri er mwyn cofio digwyddiad neu stori. Ond mae ambell i stori wedi eu creu o’r newydd er mwyn ceisio rhoi ystyr i enw lle.

Ceir hen goel mai’r brenin creulon chwedlonol, Tegid Foel a roddodd ei enw i Lyn Tegid yn Y Bala, a bod ei deyrnas wedi ei boddi o dan y dŵr o ganlyniad i’w natur gas.

Mae Llyn Bochlwyd, uwch Llyn Ogwen wedi ei enwi ar ôl stori am hudd yn dianc o grafangau heliwr. Fe nofiodd ar draws y llyn gan gadw ei fochau llwyd uwch ben y dŵr er mwyn anadlu.

Yn ôl yr hanes, claddwyd y cawr a’r brenin Rhita ar gopa’r mynydd enwog hwn a rhoddwyd yr enw ‘Gwyddfa Rhita’ ar y copa. Ystyr gwyddfa yw bedd neu siambr gladdu.

Yn ôl yr hanes, mae Bwlch y Saethau, sydd ar Lwybr Watkin, Yr Wyddfa, yn coffau’r man lle yr anafwyd y Brenin Arthur yn angheuol.

Mae llu o fytholeg a llên gwerin yn perthyn i’r copa hwn. Un o darddiadau’r enw yw bod Idris Gawr yn defnyddio’r mynydd fel cadair.

Dwyn i gof creaduriaid y gorffennol

Mae rhai enwau lleoedd yn dwyn i gof enwau creaduriaid sydd bellach yn brin neu wedi diflannu’n llwyr o ardal y Parc Cenedlaethol.

  • Ewig
    Carw benywaidd
    Enghraifft: Bwlch Ewigod (Dolwyddelan)
  • Danas
    Carw
    Enghraifft: Gwastadanas (Nant Gwynant)
  • Hydd
    Carw
    Enghraifft: Pant yr Hyddod (Betws-y-coed)
  • Blaidd
    Enghraifft: Cwm y Bleiddiaid (ger Yr Aran).
  • Bela
    Gair am flaidd
    Enghraifft: Craig y Bela (ger Llyn Padarn).
  • Eryr
    Enghraifft: Clogwyn yr Eryr (Llyn Eigiau)

Mae enwau lleoedd eraill yn dangos olion y ffordd yr oedd pobl Eryri yn arfer byw a gweithio.

Mae’r geiriau ‘hendref’ a ‘hafod’ mewn enw lle yn atgof o hen ffordd o ffermio. Byddai teulu’r fferm yn byw yn yr hendref, ond yn symud i’r hafod yn ystod y misoedd mwynach.

Dathlu Enwau Eryri

Fel rhan o gynllun Llysgennad Eryri, ysgrifennodd y prifardd Myrddin ap Dafydd gerdd gan ddefnyddio enwau cymoedd yn Eryri yn unig. Mae’r gerdd yn adlewyrchu’r cyfoeth o enwau unigryw sydd i’w gael yn ardal y Parc Cenedlaethol.

Cymoedd yn Eryri

Cwm Bleiddiaid, Cwm Brwynog, Cwm Bowydd,
Cwm Croesor, Cwm Ciprwth, Cwm Coch,
Cwm Cywarch, Cwm Clogwyn, Cwm Cynfal,
Cwm Cneifion, Cwm Cowlyd, Cwm Cloch.

Cwm Dulyn, Cwm Dyli, Cwm Dylluan,
Cwm Dreiniog, Cwm Deiliog, Cwm Du,
Cwm Eigiau, Cwm Esgyll, Cwm yr Eglwys,
Cwm Ffernol, Cwm Dôl a Chwm Dŵr.

Cwm Gerwyn, Cwm Garmon, Cwm y Gylchedd,
Cwm Gwyn, Cwm y Gaer, Cwm-y-glo,
Cwm Hetiau, Cwm yr Hafod, Cwm Hesgen,
Cwm Hirnant, Cwmfynhadlog, Cwm y Go’.

Cwm Llechen, Cwm Llusog, Cwm Llefrith,
Cwm Llugwy, Cwm Llwy a Chwm Lloer,
Cwm Maesgwm, Cwm Mynach, Cwm Marchlyn,
Cwm Penamnen, Cwm Meillionen, Cwm Merch.

Cwm Nantcol, Cwmorthin, Cwm Oerddwr,
Cwm Ochain, Cwm Caeth, Cwm Blaen y Glyn,
Cwm Prysor, Cwm Penmachno, Cwm Pandy,
Cwm Tylo, Cwm Tryweryn, Cwm Gwyn.

Cwm Ffynnon, Cwm Idwal, Cwm y Lloiau,
Cwm Onnen, Cwm yr Haf, Cwm Afon Goch,
Cwm yr Ychain, Cwm yr Hyrddod, Cwm Marchnad,
Cwm Beudy Mawr, Cwm Tal-y-braich a Chwm Moch.

—Myrddin ap Dafydd
Fel rhan o gynllun Llysgennad Eryri