Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Cyfle i ddysgu, datblygu a chael hwyl; mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer unigolion rhwng 14-17 oed sydd a diddordeb mewn antur awyr agored a’r amgylchedd.

Am un diwrnod y mis, fel arfer ar ddydd Sadwrn neu Sul, mae’r Ceidwaid Ifanc yn gweithio ochr yn ochr a staff yr Awdurdod er mwyn dysgu mwy am y tirweddau amrywiol rydym yn galw’r gartref. Fel arfer mae’r dydd yn cael ei rannu’n ddau a mi fyddwn yn gwneud gweithgaredd corfforol megis cerdded, mynydda, dringo, caiacio, beicio (a mwy!) ac yna ychydig o waith cadwraethol megis plannu coed, gwaredu rhywogaethau ymledol, cynnal a chadw llwybrau, clirio sbwriel, arolygon natur (a mwy!) Mae rhai sesiynau yn fwy thematig am ddysgu am Eryri a’i thirweddau, daeareg a daearyddiaeth, hanes a threftadaeth, archaeoleg neu fioamrywiaeth. Mae’r sesiynau’n cynnwys ymweld a amgueddfeydd neu safleoedd o bwysigrwydd gwyddonol neu hanesyddol a dysgu am fywyd gwyllt.

Mae’n gyfle gwych i’r rheini sy’n meddwl am yrfa mewn sectorau megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd, yr awyr agored, chwaraeon ac hamdden neu dwristiaeth. Mae’r cynllun yn darparu cyfleoedd i geisio profiadau a diddordebau newydd. Mae am ddim ac yn wirfoddol.

Mae niferoedd y grŵp yn amrywio yn ddibynol ar argaelaedd y sesiynau ond mi fydd fel arfer yn cynnwys 7 Ceidwad Ifanc. Rydym ar ddeall fod gan bobl ifanc ymrwymiadau eraill megis ysgol, diddordebau, bywyd cymdeithasol a chlybiau a felly methu mynychu pob diwrnod. Rydym yn gofyn i chi ein rhybuddio os na fyddwch ar gael i ni allu cynnig y sesiwn i rhywun arall. Rydym am weld pob sesiwn yn llawn. Mae hynny’n goygu hefyd bod rhai sesiynau yn gyntaf i’r felin.

Mae’r cynllun Ceidwad Ifanc cyfredol wedi ei leoli fwyafrif yng ngogledd y Parc. Yn y misoedd nesaf rydym yn gobeithio cychwyn grŵp arwahân yn ne’r Parc hefyd er mwyn hwyluso’r gwaith teithio ar gyfer yr aelodau a’u rhieni. Mae hyn oherwydd nad oes trafnidiaeth ar gael ar gyfer bob sesiwn. Weithiau mi fydd gennym fws mini ond gan amlaf dim ond un ffordd at weithgareddau’r diwrnod.

Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb mewn bod yn Geidwad Ifanc, dilynwch y ddolen yma er mwyn llenwi’r ffurflen gais: https://forms.office.com/e/mir0pJqnkN

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach cysylltwch gyda Ailish.roberts@eryri.llyw.cymru