Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwefannau canlynol:

  • eryri.llyw.cymru
  • awdurdod.eryri.llyw.cymru
  • cynllunio.eryri.llyw.cymru
  • yrysgwrn.com

Statws cydymffurfio

Mae’r gwefannau hyn yn cydymffurfio’n rhannol â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a/neu’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:

(a) diffyg cydymffurfiaeth gyda rheoliadau hygyrchedd

Amryw o dudalennau

  • WCAG 1.4.10 Adlifeirio: Ar welediad 400% mae rhan o’r baner cwcis yn anweledol.

Cyswllt

  • WCAG 1.4.3 Cyferbyniaeth (isafswm): Nid oes gan y blwch chwilio ddigon o gyferbyniaeth lliw.

Fideo

    • Nid oes isdeitlau ar rai o’r fideos sydd wedi’u hymgorffori yn y wefan. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.1 AA 1.2.2.

(b) baich anghymesurol

Rydym yn cydbnabod yr heriau mewn sicrhau hygyrchedd dogfennau PDF ar ein gwefan, yn wedig ar gyfer cofnodion pwyllgorau’r Awdurdod a Chynllunio. Fel Awdurdod bychan, adnoddau prin, gofynion statudol, terfynau amser tyn, cynnwys deinamig a dibyniaeth ar ddogfennau allanol mae hyn i gyd yn cyfrannu at y baich anghymesurol yr ydym yn wynebu wrth gyrraedd safonau hygyrchedd.

Cysylltwch â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.

(c) nid yw’r cynnwys o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

  • Mae Maen Praf 1.2.4 WCAG 2.1 AA  yn gofyn bod capsiynau’n cael eu darparu ar sain neu fideo byw. Nid yw’r maen prawf hwn o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
  • Nid yw rhai dogfennau PDF sydd yn hanfodol iw’n gwasanaeth a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 yn hygyrch. Nid yw’r dogfennau PDF hyn o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 5 Mawrth 2024.

Paratowyd y datganiad hwn drwy hunan-werthusiad a defnydd o wasanaeth mesur hygyrchedd trydydd parti.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Ffôn: 01766 770274
Ebost: parc@eryri.llyw.cymru

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (GCCC).

Gwefan y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb