Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Polisi Preifatrwydd

Wrth gofnodi manylion megis enw a chyfeiriad e-bost yn y meysydd gofynnol, rydych yn galluogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i ddarparwyr gwasanaeth i’ch darparu â’r gwasanaethau y detholwch. Pa bryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol o’r fath, byddwn yn trin yr wybodaeth honno yn unol â’r datganiad hwn

Datganiad Preifatrwydd

Cwcis

Mae newid yn y gyfraith yn golygu y byddwn angen eich caniatad o 26 Fai 2018 i achub cwcis oddi ar eich peiriant. Darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus gan ein hysbysu o unrhyw gwestiynau.

Ffeiliau bychain yw cwcis sy’n cael eu gyrru i’ch porydd (e.e. Google Chrome, Safari neu Firefox) a’u cadw ar ddisg caled eich cyfrifiadur. Maent yn adnabod eich cyfrifiadur yn unig ac nid chi’n bersonol.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis amrywiol i helpu i wella eich profiad o ddefnyddio’r wefan. Mae rhai cwcis yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad y wefan ac mae cwcis eraill yn ddewisol ac yn cofnodi data dadansoddol ar sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan.

Cwcis Angenrheidiol

Mae rhai cwcis yn hanfodol ar gyfer gweithrediad y wefan hon ac wedi’u rhestru fel cwcis ‘angenrheidiol’. Mae’r canlynol yn gwcis sy’n storio eich gosodiadau cwci ac yn cael eu storio ar eich disg galed am 11 mis.

  • cookielawinfo-checkbox-analytics
  • cookielawinfo-checkbox-functional
  • cookielawinfo-checkbox-necessary
  • cookielawinfo-checkbox-others
  • cookielawinfo-checkbox-performance
  • viewed_cookie_policy

Mae’r cwcis canlynol yn storio eich dewisiadau iaith ar y wefan ac yn cael eu storio ar eich disg caled am 1 diwrnod.

  • wp-wpml_current_language
Cwcis Dadansoddi

Defnyddir rhai cwcis i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â’r wefan hon. Mae’r cwcis hyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth am fetrigau nifer yr ymwelwyr, cyfradd bownsio, ffynhonnell traffig, ac ati.

Nid yw cwcis dadansoddol yn hanfodol ar gyfer gweithrediad y wefan a gellir eu hanalluogi.

Mae’r canlynol yn gwcis sy’n cael eu storio gan Google Analytics i fesur gweithgaredd a metrigau ar ddefnydd y wefan ac sy’n cael eu storio ar eich disg caled am 2 flynedd.

  • _ga

Rydym yn eich cynghori i dderbyn y cwcis oddi ar ein gwefan gan eu bod yn ein helpu i wella profiad y defnyddiwr.

Os nad ydych eisiau derbyn cwcis o’r wefan yma yna dewisiwch gosodiadau cwcis o dan eich gosodiadau preifatrwydd eich porwr ac yna ychwanegwch ein parth i’r rhestr o wefannau nad ydych eisiau derbyn cwcis ohonynt. Mae’n bosib hefyd dileu cwcis unigol neu unrhyw gwcis sydd wedi eu storio ar eich porwr.

Mapiau Ar-lein

Prif bwrpas y mapiau rhyngweithiol ar y wefan hon yw galluogi’r cyhoedd i gael mynediad at wybodaeth ar fapiau ar gyfer ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn darparu mapiau rhyngweithiol ar-lein at ddibenion gwybodaeth; mae’r holl wybodaeth at ddefnydd dangosol yn unig. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y data, sy’n cael ei gyflwyno mewn ewyllys da, ni fydd yr Awdurdod yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod na niwed (ariannol, cytundebol neu fel arall) a achosir o ganlyniad i, neu yr honnir iddo fod o ganlyniad i ddibyniaeth arno.

Mae’r mapiau yn seiliedig ar ddeunydd yr Arolwg Ordnans gyda chaniatâd yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolydd Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu diawdurdod yn torri hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu weithrediadau sifil.

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2023 Arolwg Ordnans AC0000825604. Defnyddio data hwn yn amodol ar delerau ac amodau.

Rhoddir trwydded ddirymiadwy, anghyfyngedig a heb freindal i chi i weld y data trwyddedig at ddibenion anfasnachol am y cyfnod y mae ar gael gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu na gwerthu unrhyw ran o’r data hwn i drydydd partïon mewn unrhyw ffurf; ac Yr Arolwg Ordnans fydd yn cadw’r hawlio trydydd parti i orfodi amodau’r drwydded hon.

Mae atgynhyrchu heb awdurdod yn torri hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai personau sy’n edrych ar y mapiau hyn gysylltu g Arolwg Ordnans am gyngor os ydynt yn dymuno trwyddedu data mapiau’r Arolwg Ordnans at eu defnydd eu hunain. Gellir dod o hyd i wefan yr Arolwg Ordans ar www.ordnancesurvey.co.uk

Data’r Post Brenhinol

Mae’r wybodaeth am gyfeiriadau a ddefnyddir yn yr offer chwilio cyfeiriadau yn seiliedig ar Ffeil Cyfeiriadau Cod Post (PAF) y Post Brenhinol. Mae cytundeb trwydded ‘gwe-glic’ PAF yn darparu mynediad at gyfresi data awdurdodau lleol a / neu genedlaethol.

Argraffu

Ni dderbynnir detholiadau a gymerir o’r mapiau rhyngweithiol ar y wefan hon fel cynlluniau safle ar gyfer ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladu, ac nid ydynt ychwaith yn dderbyniol mewn gweithrediadau llys.

Yr hyn y caniateir i chi ei wneud

Cewch argraffu copïau o unrhyw dudalen unigol ar gyfer eich defnydd personol eich hunan neu at ddiben addysgol. Mae hyn yn cynnwys gwneud copïau er mwyn eu storio ar gof dros dro neu gopïau a wneir pan gaiff y ffeil ei lawrlwytho yn unig, ar yr amod na wnewch unrhyw rai o’r hyn a fanylir arnynt isod dan “Yr hyn na chewch ei wneud”.

Yr hyn na chewch ei wneud

Copïo (boed hynny trwy argraffu ar bapur, storio ar ddisg neu mewn unrhyw ffordd arall), dosbarthu (gan gynnwys dosbarthu copïau), ymyrryd â neu altro mewn unrhyw ffordd neu fel arall ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ac eithrio’r hyn a ddywedir uchod yn “Yr hyn y caniateir i chi ei wneud”.

Copïo unrhyw ddeunydd o’r wefan hon at unrhyw ddiben masnachol arall.

Tynnu unrhyw hysbysiadau hawlfraint, nod masnach neu unrhyw hysbysiadau eiddo deallusol eraill neu ddyfrnod a gynhwysir yn y deunydd gwreiddiol neu o unrhyw ddeunydd a gopïwyd neu a argraffwyd o’r wefan.

Defnyddio’r wefan ar gyfer unrhyw weithgareddau sy’n torri unrhyw gyfraith, torri ar hawliau unrhyw barti arall, neu dorri unrhyw safonau, anghenion cynnwys neu godau a gyhoeddwyd gan unrhyw awdurdod perthnasol.

Defnyddio’r safle mewn unrhyw ffordd sy’n ymyrryd â’n systemau, defnyddwyr eraill neu sy’n aflonyddu ar, bygwth neu’n niweidio unrhyw un. Byddwch yn ein digolledu rhag ac yn erbyn pob gweithrediadau, hawliad, cwynion, gorchmynion, atebolrwydd, costau neu dreuliau sy’n deillio o, neu’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd, â’r defnydd o’r safle gennych chi neu unrhyw berson arall sy’n defnyddio eich gwybodaeth mewngofnodi.

Defnyddio’r safle i wneud unrhyw neilltuad sbeciannol, ffug neu dwyllodrus neu unrhyw neilltuad mewn disgwyliad am alw.

Perchnogaeth, Hawlfreintiau a Nodau Masnach

Mae’r wefan hon yn cynnwys delweddau, testunau, fformatau ac arddulliau cyflwyno, meddalwedd (gan gynnwys côd HTML) a deunyddiau sy’n analogaidd iddo (“Deunydd”). Mae’r holl hawlfreintiau ac eiddo moesol, perchnogaeth a deallusol sy’n gallu ymgynnal yn y Deunydd neu’n ddeilliadol ohono o dro i dro fod yn eiddo cyfan gwbl neu’n drwyddedig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Rydych yn cydnabod ein hawliau i’r Deunydd. Fel y’i darperir mewn man arall yn y Telerau hy, ni ddylech gopïo, addasu, trin, trosglwyddo, perfformio, cyhoeddi, arddangos trwydded na chreu gwaith deilliadol o’r Deunydd y ceir mynediad ato trwy’r wefan hon. Lle caniateir copïo neu drosglwyddo yn unig, rhaid i chi arddangos unrhyw athreuliad awdur neu hysbysiad hawlfraint.

Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys nodau masnach penodol (gyda chaniatâd neu wedi gwneud cais amdano), graffig, logos ac enwau gwasanaeth (“Dyfeisiau”). Ni chaniateir copïo’r Dyfeisiau na’u hatgynhyrchu mewn unrhyw fformat (cedwir fel yr hyn a ddarperir mewn man arall yn y Termau), neu eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth heb ganiatâd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu mewn unrhyw ffordd sy’n debygol o beri dryswch ymysg y cyhoedd, sy’n amharchu neu’n difrïo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel is-gwmni. Mae pob nod masnach arall nad ydynt yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu sy’n gysylltiedig a ymddengys ar y safle hwn yn eiddo i’w perchnogion unigol, a all fod neu all beidio â bod yn gysylltiedig â, yn gysylltiol â, neu wedi eu noddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu rai cysylltiedig.

Cyfrannu eich lluniau

Wrth gyfrannu eich lluniau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri rydych yn rhoi hawl i ni eu hail gyhoeddi heb dalu breindal, ac i’w defnyddio mewn unrhyw fodd y dymunwn, mewn unrhyw gyfrwng.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi eich yn cadw’ch hawlfraint ar y lluniau yr ydych yn eu cyfrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac y byddwn yn ymdrechu i gyhoeddi’ch enw ochr yn ochr â’ch lluniau ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Rydym yn cadw’r hawl i olygu eich sylwadau.

Newidiadau i’r Amodau a’r Telerau Hyn

Gallwn ar unrhyw adeg newid neu addasu’r Termau cyfan hyn neu rannau ohonynt. Wrth bori’r wefan hon rydych yn derbyn eich bod yn rhwym i’r amodau a’r telerau a’r ymwadiadau sy’n gyfredol ar yr adeg hynny, felly dylech wirio’r rhain bob tro y byddwch yn ymweld â’r safle.

Ymwadiadau Atebolrwydd

Rydym wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennym ar y wefan hon yn gywir ar yr adeg y byddwch yn edrych arno. Fodd bynnag, ni allwn ac nid ydym wedi gwirio cywirdeb yr holl wybodaeth a ddarparwyd gan ffynonellau allanol na chan ddarparwyr gwybodaeth eraill neu bartïon eraill sydd â chyswllt i neu o’r wefan.

Mae’r holl wybodaeth o’r fath wedi ei ddarparu mewn ysbryd da ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n gwrthod atebolrwydd am unrhyw wallau, esgeulustra neu wybodaeth gamarweiniol (oni bai y’i gwneir yn fyrbwyll neu drwy dwyll) i’r graddau mwyaf posib a ganiateir gan y gyfraith, ynghyd â’r holl warantau ymhlyg sy’n gysylltiedig â gwybodaeth o’r fath.

Mae’r wefan hon yn cynnwys hypergysylltiadau i wefannau eraill e.e. safleoedd a gyhoeddwyd gan bartïon amgenach nag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Darperir hypergysylltiadau o’r fath er eich cyfeiriad yn unig. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryi’n gweithredu safleoedd o’r fath ac felly nid yw’n gyfrifol am eu cynnwys. Hefyd, nid yw cynnwys yr hypergysylltiadau’n awgrymu cefnogaeth i ddeunyddiau ar wefannau o’r fath neu unrhyw gydgysylltiad â’u gweithredwyr.

Os dymunwch sefydlu hypergysylltiad o’ch gwefan i’r wefan hon, neu’n dymuno fframio’r wefan hon neu ran ohono, byddwch angen caniatâd ysgrifenedig gennym. Cysylltwch â Phencadlys yr Awdurdod trwy e-bostio parc@eryri.llyw.cymru.

Nid ydym yn gwarantu neu’n gwneud unrhyw gynrychiolaeth mewn perthynas ag argaeledd y wefan hon ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi os na fydd y wefan hon ar gael ar eich cyfer am unrhyw reswm.

Ni fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dan unrhyw amgylchiadau’n atebol am unrhyw anaf, colled, hawliad, difrod neu unrhyw ddifrodau damweiniol neu ôl-ddilynol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i golled mewn elw neu gynilion, sy’n deillio o, neu mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â’r defnydd o unrhyw ddata neu wasanaethau gwybodaeth a arddangosir ar y safle hwn. Ni fydd hyn yn berthnasol i niwed personol neu farwolaeth uniongyrchol.

Bydd y defnydd o’r wefan hon a’r Termau hyn yn amodol ar gyfreithiau Cymru ac awdurdodaeth llysoedd Cymru.

Os penderfynir bod unrhyw rai o’r termau hyn yn anghyfreithlon, annilys neu fel arall yn anrhagweledig trwy gyfreithiau unrhyw dalaith neu wlad y bwriedir i’r termau hyn fod mewn grym, yna i’r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth y bydd y term hwnnw’n anghyfreithlon, annilys neu’n anrhagweledig, bydd yn cael ei wahanu a’i ddileu o’r termau hyn a bydd y termau sy’n weddill yn goroesi, yn parhau mewn grym ac effaith llawn ac yn parhau i fod yn rhwymyn a gorfodol.