Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Ymunwch â ni i warchod harddwch Eryri

Rhaglen wirfoddoli yw cynllun Caru Eryri sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y cynllun yw helpu i reoli’r effaith y mae nifer cynyddol o ymwelwyr yn ei chael yn y Parc Cenedlaethol.

Cwblhawyd gwaith gwych gan ein gwirfoddolwyr llynedd. Eleni, mae angen mwy eto o bobl i ymuno â’r tîm. Ein nod yw darparu presenoldeb ar draws mwy o leoliadau dros gyfnod hirach er mwyn sicrhau y gallwn gynorthwyo mwy o ymwelwyr a chynnig mwy o gefnogaeth i gymunedau .

Gwirfoddoli gyda Caru Eryri

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Eryri mor arbennig.

Bydd eich rôl yn cynnwys rhai o’r tasgau canlynol, ymhlith eraill:

 

  • Gwirfoddoli ar ddydd Gwener, benwythnosau, a gŵyliau banc.
  • Parodrwydd i gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn gwrtais ac i ddarparu cyngor.
  • Meddu ar lefel resymol o ffitrwydd corfforol i allu cerdded ar hyd y llwybrau patrôl a neilltuwyd.
  • Hyrwyddo gwaith yr Awdurdod ac annog y cyhoedd i fynd o gwmpas Eryri yn gynaliadwy a chyfrifol.
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw ar ein llwybrau.
  • Chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant am natur Eryri gan Mike Raine.
  • Teithiau cerdded gyda arweinwyr mynydd profiadol.
  • Bod yn rhan o dîm cyfeillgar a threulio amser gyda unigolion o’r un anian.
  • Byddwn yn ad-dalu treuliau rhesymol (milltiredd cerbyd).
  • Gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru.
  • Chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Bod yn rhan o waith sy’n helpu eraill i ddeall a mwynhau Eryri.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli yn Eryri, cysylltwch â:

Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant
07584 443 919
etta.trumper@eryri.llyw.cymru