Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Mae gwirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol yn ffordd wych o warchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu i warchod yr hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Eryri mor arbennig.

Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch galluoedd, mae lle i chi chwarae’ch rhan. Byddwch hefyd yn gweld bod manteision enfawr i chi: sgiliau a phrofiad defnyddiol, mwy o wybodaeth am y Parc Cenedlaethol, cyfarfod ffrindiau newydd, ymarfer corff a boddhad o wybod eich bod yn gwneud rhywbeth i helpu.

Buddion Gwirfoddoli

Mae nifer o fanteision i wirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol.

Bod yn rhan o waith sy'n helpu eraill i ddeall a mwynhau Eryri
Gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru
Gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr profiadol a staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Chwarae rhan mewn gwarchod Eryri ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Cyfleoedd Gwirfoddoli

Amser o’r flwyddyn: Haf

Ymunwch â thîm Caru Eryri yr haf hwn i helpu i gadw Eryri yn eithriadol i bawb ei fwynhau. Byddwn yn gweithio ar rhai o lwybrau poblogaidd Eryri gan gadw’r amgylchedd yn glir o sbwriel ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd gan roi cyngor ar lwybrau a’r cod cefn gwlad.

Cofrestrwch nawr (Uniaith Saesneg)

Logo Caru Eryri

Amser o’r flwyddyn: Rhagfyr – Mawrth

Drwy gydol misoedd y gaeaf byddwn yn cynnal llawer o ddiwrnodau plannu coed a gwrychoedd ar draws y Parc Cenedlaethol. Ffordd wych o wrthbwyso rhywfaint o’ch ôl troed carbon a helpu i ofalu am ein planed am flynyddoedd i ddod.

Amser o’r flwyddyn: Mawrth – Hydref

Mae Wardeiniaid Gwirfoddol yn cynorthwyo wardeniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ofalu am Eryri, gan gynnwys cynnal a chadw llwybrau, codi sbwriel a darparu gwybodaeth i ymwelwyr.

Cynllun Wardeinaid Gwirfoddol

Amser o’r flwyddyn: Medi – Ionawr

Yn 2016, enillodd Parc Cenedlaethol Eryri ei statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, un o ddim ond 18 yn y byd. Sy’n golygu bod Eryri yn swyddogol yn un o’r lleoedd gorau yn y wlad ar gyfer syllu ar y sêr. Er mwyn cynnal y dynodiad hwn, mae angen tîm o wirfoddolwyr i’n cynorthwyo i fonitro ansawdd awyr y nos i adrodd yn ôl i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

Amser o’r flwyddyn: Gwanwyn – Hydref

Ymunwch â’r tîm gwych o wirfoddolwyr sydd yn cadw’r ‘drws ar agor’ yn Yr Ysgwrn.

Wrth barhau i rannu negeseuon oesol cartref Hedd Wyn am ryfel, diwylliant a chymuned, byddwn yn gallu croesawu ymwelwyr o bell ac agos i Drawsfynydd.

Gwneud cais i wirfoddoli

Gallwch wneud cais i wirfoddoli drwy lenwi’r Ffurflen Gais Gwirfoddoli. Mae Cymdeithas Eryri hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli amrywiol.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli yn Eryri, cysylltwch â:

Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant
07584 443 919
etta.trumper@eryri.llyw.cymru