Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Rheng flaen gwarchod Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei warchod gan dîm ymroddedig o wardeiniaid, gyda phob un yn gofalu am ardal arbennig o fewn y Parc.

Mae gan y wardeniaid rôl ddiddorol ac amrywiol, sy’n cynnwys rhoi cyngor i’r cyhoedd ar sut i ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol yng nghefn gwlad, cysylltu â pherchnogion tir i helpu gyda’r gwaith o reoli ymwelwyr a helpu ysgolion a grwpiau cymunedol gyda phrosiectau cadwraeth.

Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol

Gan weithio ochr yn ochr â Staff yr Ystad, mae wardeniaid yn helpu i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i’r cyhoedd drwy reoli’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau caniataol a ‘Chefn Gwlad Agored’. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys codi camfeydd, giatiau ac arwyddion ynghyd ag ailwynebu llwybrau a gwaith cynnal a chadw cyffredinol.

Mae gan Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri wybodaeth fanwl am ddaeareg a bywyd gwyllt yr ardaloedd y maent yn gwasanaethu.

Maent yn darparu gwasanaeth pwysig i ymwelwyr, gan roi cyngor gwerthfawr i gerddwyr, dringwyr a thwristiaid ar sut i fod yn ddiogel a mwynhau popeth sydd gan Barc Cenedlaethol Eryri i’w gynnig.

Uwch-dîm Wardeinio Parc Cenedlaethol Eryri

Adam Daniel
Pennaeth Wardeinio a Mynediad

David Jones
Uwch Warden y De

Swydd Wag
Uwch Warden y Gogledd

Gethin Corps
Warden Dolgellau

Rhys Gwynn
Warden Dolgellau

Myfyr Tomos
Warden Rhan Amser y De

Dilwyn Williams
Warden Pen-y-Pass

Alan Pritchard
Warden Y Carneddau

Alun Gethin Jones
Warden Yr Wyddfa

Arwel Morris
Warden Llyn Tegid a’r Bala

Robat Davies
Warden Cynorthwyol Llyn Tegid

Wardeniaid Gwirfoddol

Yn achlysurol, mae cyfleoedd yn codi i wirfoddoli fel warden. Caiff y cyfleoedd hyn eu cyhoeddi ar ein tudalen wirfoddoli.

  • Cyfle i fod yn rhan o dîm a chyfarfod â phobl newydd
  • Gwella eich profiad o Fynydda
  • Amrywiaeth o gyrsiau a theithiau cerdded gyda gwahanol arbenigwyr lleol e.e. Cymorth Cyntaf, Hanes Lleol, Daeareg yr Wyddfa
  • Profiad gwych a all eich helpu i gael gwaith yn y dyfodol.
  • Gwella eich gwybodaeth am reoli cefn gwlad
  • Cyfle i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy Eryri

Gwirfoddoli