Mae’r Gwasanaeth Wardeinio a Mynediad yn gweithio ar y rheng flaen yn gwarchod Eryri.
Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth o feysydd sy’n ymwneud â gweithio yn yr awyr agored ar draws y Parc Cenedlaethol.
Cyfrifoldebau Adrannol
- Cynnal tirweddau a chynefinoedd amrywiol y Parc Cenedlaethol.
- Cydweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir ar faterion megis cadwraeth a mynediad.
- Datblygu a chynnal cyfres o deithiau a hyrwyddir ar draws y Parc Cenedlaethol.
- Trafod materion yn ymwneud â materion mynediad o fewn y Parc Cenedlaethol.
- Cydweithio â Chynghorau Sir er mwyn cynnal a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
- Cynllunio ac ymgymryd â gwaith adfer llwybrau, gan gynnwys palmantu cerrig.