Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Rhybudd
Mi fydd Plas Tan y Bwlch ar gau rhwng y 18fed o Ragfyr a Ionawr 2il.

Saif Plas Tan y Bwlch ar lecyn bendigedig yn edrych dros ddyffryn Afon Dwyryd yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Nid oes unrhyw ran o’r Parc fwy na rhyw waith awr o yrru oddi yma ac mae rhai o’r golygfeydd godidocaf ym Mhrydain o fewn cyrraedd hawdd.

O uchelderau’r Wyddfa a Chadair Idris a rhostiroedd noeth y Migneint mae’r bryniau’n ymestyn drwy’r dyffrynnoedd diarffordd, y llethrau coediog a’r llynnoedd llonydd i lawr i’r môr. Yn eu plith mae nifer o leoedd sydd o ddiddordeb botanegol, daearegol a hanesyddol,

Yn y Plas hanesyddol hwn mae posib i chi aros dros nos neu gynnal digwyddiadau megis priodasau. Rydym hefyd yn teilwra ar gyfer cyrsiau galwedigaethol ac addysgiadol.

Llety
Gellir darparu llety i hyd at 60 o bobl mewn ystafelloedd en-suite sydd â lle i 1–4 o bobl gysgu, a 5 ystafell safonol sydd â chawodydd, toiledau ac ystafelloedd ymolchi wrth law.
Llety
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae trefnu cyfarfodydd a chynadleddau yn gallu bod yn broses anodd ac yn dasg ddi-ddiolch. Ond mae’n staff yma yn barod i’ch cynorthwyo a’ch cynghori gan sicrhau’r trefniant gorau i chi.
Ystafelloedd Cyfarfod
Y Gerddi
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Y Gerddi
Yr Hanes
Mae Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri wedi'i lleoli yn y plasty gwledig arbennig hwn a fu am flynyddoedd maith yn gartref Cymreig i’r teulu Oakeley, perchnogion chwareli a thiroedd o fri yn yr ardal. Hwy oedd disgynyddion y teuluoedd Evans a Griffith a ddewisodd y llecyn prydferth hwn yn gartref iddynt, ac a gasglodd stad helaeth yn yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif.

CYSYLLTU:

ffôn – 01766 772600

e-bost – plas@snowdonia.gov.wales