Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Gwely & Brecwast

Gellir darparu llety i hyd at 60 o bobl mewn ystafelloedd en-suite sydd â lle i 1–4 o bobl gysgu, a 5 ystafell safonol sydd â chawodydd, toiledau ac ystafelloedd ymolchi wrth law.

Ceir mynediad hawdd at dair ystafell ar y llawr gwaelod ac mae un ohonynt yn gwbl hygyrch.

Mae cyfleusterau gwneud te a choffi ar gael i’r gwesteion mewn lolfa gyfforddus yn barhaus, yn ogystal â WiFi am ddim, Bar ac Ystafell Sychu.

Prisiau Gwely a Brecwast

Prisiau canol wythnos (Llun-Iau)
£55.00 – Sengl
£85.00 – Dwbl/Dau wely
£150.00 – Llofft deulu (4 person)

Prisiau penwythnos (Gwener-Sul)
£66.00 – Sengl
£93.50 – Dwbl/Dau wely
£165.00 – Llofft deulu (4 person)

Archebu llety

Aros am un noson
Mae modd i chi archebu lle i aros ym Mhlas Tan y Bwlch am un noson drwy gysylltu â’r Plas ar 01766 772600 neu plas@eryri.llyw.cymru.