Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Pam rhoi rhodd i Barc Cenedlaethol Eryri?

Gall rhoi rhodd i’r Parc Cenedlaethol fod yn brofiad gwerth chweil. Mae nifer o resymau dros gyfrannu tuag at Eryri, gan gynnwys:

  • Fel rhan o ddigwyddiad codi arian neu elusennol
  • Cefnogi’r gwaith o warchod Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • Er cof am anwylyd

Cofiwch, nid oes rhaid i roddion i’r Parc Cenedlaethol fod yn ariannol, gallwch bob amser roi eich amser drwy ymuno â thîm ymroddedig o wirfoddolwyr Eryri.

Gwirfoddoli yn Eryri

Dewiswch achos

  • Dewiswch achos
 
Rhoi rodd i achos o'ch dewis

Gallwch nawr roi rhodd i achosion penodol o waith sy’n cael ei gynnal yn y Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig yr opsiwn i logi sgwteri symudedd oddi ar y ffordd, fel Trampers, yn rhad ac am ddim gan sicrhau bod cefn gwlad Eryri yn hygyrch i bawb.

Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag at y gwaith o gynnal y sgwteri symudedd.

Mynediad i Bawb

Bydd rhoi rhodd i waith cadwraeth yn y Parc Cenedlaethol yn sicrhau y bydd prosiectau cadwraeth hanfodol yn ffynu ar draws Eryri. Mae rhan o waith cadwraeth diweddaraf Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys plannu coed, adfer mawndiroedd a pori cynaliadwy.

Gwaith cadwraeth
Adran Cadwraeth, Coed ac Amaeth

Bydd rhoi rodd tuag at dîm Wardeiniaid a Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cefnogi’r gwaith hanfodol o gynnal a chadw llwybrau yn ogystal a materion mynediad cefn gwlad.

Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri
Adran Wardeiniaid a Mynediad

Mae hanes a threftadaeth gyfoethog Eryri yn un o’r agweddau niferus sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn unigryw. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ymrwymo i warchod a dathlu’r agwedd arbennig hon. Bydd eich rhodd yn mynd tuag at waith hanfodol yn Yr Ysgwrn a phrosiectau cadwraeth treftadaeth eraill megis Partneriaeth Tirwedd y Carneddau.

Hanes a Threftadaeth Eryri
Adran Gynllunio a Threftadaeth Diwylliannol

Plas Tan y Bwlch yw canolfan astudio swyddogol y Parc Cenedlaethol. Mae Cyfeillion Tan y Bwlch yn elusen cofrestredig sy’n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau parhaus i’r ganolfan a gwaith ymchwil ar brosiectau amgylcheddol lleol.

Plas Tan y Bwlch

Bob blwyddyn, mae cannoedd o wirfoddolwyr yn cynnig eu hamser i helpu i warchod Eryri—gan gynorthwyo’r gwaith o gasglu sbwriel, plannu coed a wardeinio. Bydd rhodd tuag at waith gwirfoddoli Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn sicrhau y gall gwirfoddolwyr barhau i chwarae rhan wrth warchod Eryri am genedlaethau i ddod.

Gwirfoddoli

Mae sicrhau bod Eryri yn ffynnu yn gynaliadwy yn un o nodau allweddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd rhoi arian tuag at fentrau cynaliadwyedd yn cefnogi gwaith megis mentrau teithio carbon niwtral, twristiaeth gynaliadwy a seilwaith cynaliadwy ar draws Eryri.

Gweithio mewn Partneriaeth

Ansicr o le i gyfeirio eich rhodd? Mae croeso i chi wneud rhodd cyffredinol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd eich rhodd yn mynd tuag gefnogi gwaith sy’n gwarchod a gwella Eryri.

Darganfod y Parc Cenedlaethol

Mae’r Ysgwrn yn un o drysorau’r Parc Cenedlaethol. Roedd yn gartref i un o feirdd enwocaf Cymru, Hedd Wyn. Mae ei stori drasig yn rhan gynhenid o hanes barddol Cymru.

Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag at sicrhau bod drysau’r Ysgwrn yn cael eu cadw ar agor am genedlaethau i ddod.

Yr Ysgwrn

Gwybodaeth am roi rhodd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Defnyddir unrhyw roddion a dderbynnir trwy’r dudalen hon i hyrwyddo gwaith yr Awdurdod â’i bwrpasau a’i ddyletswydd statudol, sef:

Ein Pwrpasau Statudol:

  • gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
  • hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol

Ein Dyletswydd Statudol:

  • meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol
Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth ynghylch rhoi rodd, cysylltwch â:

Angela Jones
Rheolwr Partneriaethau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
angela.jones@eryri.llyw.cymru