Mae Dyffryn Ogwen yn un o gefnlenau mwyaf syfrdanol y Parc Cenedlaethol. Mae’r dyffryn yn fan cychwyn gwych ar gyfer cyrraedd cadwyni mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau ac mae’n gartref i Gwm Idwal − dyffryn rhewlifol syfrdanol sy’n enwog am ei ddaeareg.
Mae nifer o ffyrdd cyfleus i gyrraedd Dyffryn Ogwen ar drafnidiaeth cyhoeddus.
Gwasanaeth TrawsCymru T10
Mae gwasanaeth T10 TrawsCymru yn cysylltu Bangor, Bethesda a Betws-y-coed gan fynd heibio Dyffryn Ogwen.
Amserlen Bws T10 (Traws Cymru)
Gwasnaeth Bws Trydan Ogwen
Gwasanaeth bws 9 sedd trydan dyddiol yn rhedeg o Fethesda i Llyn Ogwen.
Gwasanaeth Bws Trydan Ogwen
Mae gwasanaeth bws trydan Ogwen yn ran o Bartneriaeth Ogwen—menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen.
Mae’r gwasanaeth bws 9 sedd yn teithio o bentref cyfagos, Bethesda draw i Llyn Ogwen.
Nifer cyfyngedig o leoedd parcio sydd yn Nyffryn Ogwen ac mae lleoedd yn dueddol o lewni’n gyflym, yn enwedig yn ystod y tymhorau prysur. Mae maes parcio fechan sydd yn cael ei rheoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol gerllaw Canolfan Ogwen.
Maes Parcio Canolfan Ogwen
Parcio drwy’r dydd (Yn dod i ben am hanner nos): £6.00
4 awr: £3.00
Lleoedd bathodyn glas/anabl: 2 le
Pwyntiau gwefru EV ar gael
Talu drwy ‘Chip and pin’ neu’n ddigyswllt yn unig. Ni dderbynir arian parod.












Canolfan Ogwen
Yn nghanol y dyffryn, mae Canolfan Ogwen sydd â nifer o gyfleusterau defnyddiol megis:
-
Arddangosfa rhyngweithiol
- Toiledau cyhoeddus a chawodydd sydd ar agor 24 awr y dydd
- Bar byrbrydau Ogwen sy’n gweini diodydd, byrbrydau, pasteiod ac amrywiaeth o gacenna
Mae’r ganolfan hefyd yn fan gweithio i Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal yn ogystal â wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bwthyn Ogwen
Mae Bwthyn Ogwen wedi bod yn le cyfarwydd i ddringwyr, cerddwyr ac ymwelwyr ers blynyddoedd lawer. Prynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr eiddo yn ôl yn 2014 ac mae wardeniaid y Glyderau a’r Carneddau wedi’u lleoli yma.
Mae gan yr Outward Bound Trust ganolfan yma hefyd y maent yn ei defnyddio fel lleoliad gwych ar gyfer cyrsiau dysgu awyr agored heriol ac anturus i blant ac oedolion ifanc.
