Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Un o ardaloedd mwyaf trawiadol yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol

Gellir dweud mai wrth sefyll yng nghanol Cwm Idwal yw’r unig ffordd o brofi’r awyrgylch arallgyfeiriol sy’n deillio o’r dyffryn rhewlifol bychan hwn.

Crewyd y cwm gan rew filoedd o flynyddoedd yn ôl ac mae’n un o’r enghreiffitiau gorau o gwm rhewlifol yng Nghymru.

Mae Cwm Idwal wedi bod yn denu dringwyr, cerddwyr, daearegwyr, biolegwyr a botanegwyr fel ei gilydd ers blynyddoedd lawer. Yr enwocaf o ymwelwyr Cwm Idwal yw Charles Darwin, a gyflawnodd lawer o’i waith gwyddonol yn yr ardal.

 

Pam y llwybr hwn?

Mae’r llwybr arbennig hwn yng Nghwm Idwal yn llwybr heriol sy’n esgyn yn serth tuag at Twll Du (Devil’s Kitchen). Yn ystod y daith bydd angen mynd dros greigiau rhydd gan fynd o gwmpas ac ar draws clogfeini mawr.

Fodd bynnag, mae Cwm Idwal yn cynnig llwybr sy’n osgoi’r esgyniad i Twll Du. Gall y llwybr byrrach, llai heriol hwn fod yn addas ar gyfer cerddwyr llai profiadol.

Yn wych ar gyfer:
Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau/Diwedd
Canolfan Ogwen, Nant Ffrancon (SH 649603)

Map OS Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daithX
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Canolfan Ogwen 
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Gall meysydd parcio yma ac mewn mannau eraill yn y dyffryn lenwi’n gyflym iawn, rydym yn cynghori eich bod yn ystyried parcio yn y pentref cyfagos ym Methesda a dal y bws T10 rheolaidd i fyny i Gwm Idwal. Gallwch hefyd ddal gwasanaeth Bws Ogwen o bentref Bethesda.

Gwefan Traveline Cymru
Facebook Bws Ogwen

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Daeareg Cwm Idwal

Gellir dadlau mai Cwm Idwal yw un o’r lleoedd gorau i weld tystiolaeth o’r digwyddiadau daearegol aruthrol a luniodd dirwedd Eryri.

450 miliwn o flynyddoedd yn ôl, creodd grymoedd daearegol rhyfeddol y clogwyni anferth o amgylch y llyn. Mae’r plyg a’r ffawtiau yn y creigiau yn dystiolaeth o’r grymoedd hyn.

Ffurfiodd gweithgaredd rhewlifol dirwedd anhygoel Cwm Idwal siâp powlen. Roedd y rhewlif yn rhan o system rewlifol ehangach a greodd Dyffryn Ogwen. Gelwir dyffrynnoedd a ffurfiwyd o’r rhewlifoedd llai hyn yn ‘ddyffrynnoedd crog’. Cwm Idwal yw un o enghreifftiau gorau’r DU o ddyffryn rhewlifol crog.

Bywyd Gwyllt Rhyfeddol

Cwm Idwal oedd y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru.

Mae rhai o blanhigion Cwm Idwal wedi goroesi Oes yr Iâ. Maent yn cynnwys planhigion alpaidd arctig prin fel y gludlys mwsoglog, Lili’r Wyddfa a’r tormaen porffor.

Mae amrywiaeth dymhorol bywyd gwyllt Cwm Idwal yn ei gwneud yn ardal wych i ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae adar fel mwyalchen y mynydd a tinwen y garn yn ymgartrefu yng Nghwm Idwal. Gall Lili’r Wyddfa hynod brin hefyd dyfu ar frigiadau creigiog yn ystod y tymhorau hyn.

Mae’r hydref a’r gaeaf yn dod â phlanhigion caletach i’r wyneb, gan gynnwys amrywiaeth o lystyfiant rhostir a’r tormaen porffor.

Yr enw ‘Cwm Idwal’

Mae ‘cwm’ a ‘dyffryn’ yn cyfieithu i ‘valley’ yn Saesneg. Fodd bynnag, mae gan y gair ‘cwm’ ystyr mwy gwahanol. Priodolir ‘Cwm’ yn aml i ddyffrynnoedd crwn, rhewlifol fel peiran, tra bod ‘dyffryn’ yn cyfeirio at ddyffrynnoedd helaethach megis Dyffryn Ogwen. Mae Cwm Ystradllyn a Chwm Penmachno yn enghreifftiau eraill o gymoedd yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r enw Idwal yn deillio o hanes cyfoethog tywysogion Cymru. Roedd gan y tywysog Cymreig o’r 12fed ganrif, Owain Gwynedd, fab o’r enw Idwal. Yn ôl y chwedl, penderfynodd Owain ymddiried gofal ei fab i Nefydd Hardd, uchelwr Cymreig. Fodd bynnag, tyfodd Nefydd yn genfigennus o Idwal. Doedd mab Nefydd, Dunawd, ddim hanner mor glyfar ag Idwal. Penderfynodd Dunawd wthio Idwal i’r llyn a’i foddi.

Wrth glywed y newyddion, alltudiodd Owain Nefydd o hen deyrnas Gwynedd ac enwi’r llyn er cof am ei fab.

Dywedir nad oes yr un aderyn yn hedfan dros wyneb y llyn a bod llais wylofus i’w glywed ger y llyn yn ystod stormydd.

Darwin yng Nghwm Idwal

Bu i’r biolegydd byd-enwog, Charles Darwin ymweld â Chwm Idwal yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Byddai ei astudiaethau yng Nghwm Idwal yn ddiweddarach yn rhan o’r cyhoeddiad mwyaf enwog ym myd gwyddoniaeth, ‘On the Origin of Species’.

Yn ystod ei amser yng Nghwm Idwal, darganfu Darwin fod y creigiau a’r clogfeini yn y dyffryn ac o’i gwmpas yn dal ffosiliau bychain o greaduriaid y môr a phlanhigion morol. Roedd ei ddarganfyddiad yn awgrymu y byddai Cwm Idwal ar un adeg wedi bod o dan y môr.

Darganfyddwch lwybrau eraill yn y Parc Cenedlaethol
This site is registered on wpml.org as a development site.