Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Cylchdaith sy’n dilyn afon Clywedog drwy ei cheunant trawiadol

Mae Llwybr Clywedog yn llwybr ar gyrion Dolgellau ac yn un o lwybrau mwyaf poblogaidd yr ardal. Bydd y daith gerdded hon yn eich arwain o dan ganopi coetir, ar hyd afon Clywedog a heibio i weddillion diwydiannol cudd.

Mae’n debyg bod enw’r daith gerdded yn deillio o’r golygfeydd trawiadol niferus o afon Clywedog wrth iddi raeadru i lawr y ceunant.

Pam y llwybr hwn?

Mae’r ceunant yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, pathewod, ystlumod pedol lleiaf, a chasgliad pwysig o blanhigion unigryw fel cen, rhedyn, madarch, a llysiau’r afu.

Ar un adeg, roedd glannau afon Clywedog yn orlawn o weithgarwch diwydiannol. Roedd yna felin, gefail, melin wlân a ffwrnais haearn, rhai ohonyn nhw i’w gweld hyd heddiw.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau/Diwedd
Cilfan ger pentref Brithdir ar y B4416 (SH 761 182)

Map Perthnsaol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Cilfan ger pentref Brithdir ar y B4416
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cyngor ar ddiogelwch yn y Parc Cenedlaethol
Cod Cefn Gwlad

Creu Llwybr Cerdded Clywedog

Cafodd Llwybr Clywedog ei dylunio a’i adeiladu gan Thomas Payne. Bu Payne hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r morglawdd carreg ar draws afon Glaslyn ym Mhorthmadog, a adnabyddir yn lleol fel ‘Y Cob’. Bwriad gwreiddiol Llwybr Clywedog oedd ymestyn gerddi’r plasty cyfagos, Plas Caerynwch. Comisiynodd y Barwn Richards o Gaerynwch y gwaith yn ystod y 1800au.

Botanegydd Plas Caerynwch

Ar hyd y llwybr. byddwch yn dod ar draws mainc goffa i Mary Richards. Roedd Mary yn fotanegydd a oedd yn byw yn y plasty cyfagos, Plas Caerynwch. Teithiodd lawer, yn bennaf i Affrica, a daeth â llawer o blanhigion yn ôl i erddi’r plas.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwneud gwaith i adfer yr hen lwybr ar ochr ddwyreiniol y ceunant – gan geisio cadw at yr hen lwybr lle bo modd. Mae’r ceunant yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig. Cymerodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ofal arbennig i sicrhau na fyddai’r gwaith adfer yn amharu ar y safle.

Gweithgarwch Diwydiannol

Gerllaw i bont Pont Clywedog, i gyfeiriad Dolgellau, saif adfeilion hen ffwrnais haearn yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 18fed ganrif. Adeiladwyd y ffwrnais gan Abraham Darby, Crynwr o Coalbrookdale. Bu ef a Chrynwyr eraill o ffermydd Dolserau a Dolgun yn cloddio mwyn haearn ar Dir Stent gerllaw a’i gludo i lawr i’r ffwrnais.

Wrth i chi groesi Pont Clywedog, efallai y sylwch ar gasgliad o adeiladau ar y dde i chi. Melin wlân a warws oedd yr adeiladau hyn ac roedd afon Clywedog yn pweru’r felin.

Llwybrau eraill yn yr ardal hon