Taith gerdded gylchol drwy stad hanesyddol Nannau ac ar hyd glan Llyn Cynwch
Mae gan yr ardal amrywiaeth wych o rinweddau. O gynefinoedd fel coetiroedd a dolydd i olygfeydd hudolus o gadwyni mynyddoedd Eryri. Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy ran o stad Nannau sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif ac sy’n llawn hanes diddorol.
Daw’r llwybr i ben ar lan Llyn Cynwch—cronfa ddŵr weithredol sy’n darparu dŵr i Ddolgellau.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r llwybr yn cynnig digonedd o olygfannau er mwyn gweld rhai o fynyddoedd mwyaf trawiadol Eryri. I’r gogledd saif yr Wyddfa a’r Moelwynion ac i’r gorllewin saif y Rhinogydd. Mae Cader Idris, yr Aran a’r Arenig i’w gweld tua’r de a’r dwyrain.
Er bod y llwybr yn sefyll ar 800 troedfedd uwch lefel y môr, nid oes llawer o ddringo a disgyn ar hyd y llwybr. Gall fod yn opsiwn gwych ar gyfer gwibdaith anturus i’r teulu.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Nid yw’r daith gerdded hon yn dilyn llwybr cyhoeddus. Mae caniatâd wedi bod i’r cyhoedd ddefnyddio’r llwybr hwn ger stad Nannau ers 1890 ar y ddealltwriaeth eu bod yn cadw at y cod cefn gwlad, yn dilyn y llwybr a nodir ac yn defnyddio’r fynedfa gywir. Cofiwch gadw cŵn ar dennyn.
Dechrau/Diwedd
Saith Groesffordd Car Park, Llanfachreth (SH 746 212)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog a’r Bala)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes parcio Saith Groesffordd, Llanfachreth (SH 746 212)
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps
Mae hefyd doiledau cyhoeddus yn y maes parcio hwn. Gwiriwch i weld pryd y maent ar agor.
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Abaty Cymer
Dafliad carreg o Lyn Cynwch, ger cymuned Llanelltyd, saif Abaty Cymer—abaty Sistersaidd a sefydlwyd ym 1198. Mae gan yr abaty gysylltiadau cryf â Thywysogion Cymru. Credir iddo gael ei sefydlu dan nawdd dau frawd, Gruffudd a Maredudd ap Cynan, wyrion Owain Gwynedd.
Stad Nannau
Ar yr ochr ddeheuol i Lyn Cynwch mae plasty stad Nannau.
Mae gan Nannau hanes hynod ddiddorol o gymeriadau eiconig Cymreig. Adeiladwyd y tŷ presennol, sydd bron i 750 troedfedd uwch lefel y môr, yn 1796 ac roedd yn gartref i’r teulu Vaughan, a oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o dir yr ardal. Mae’n dŷ carreg trillawr o ddiwedd y 18fed ganrif a godwyd gyda blociau nadd o garreg lwyd tywyll leol. Nannau oedd y plas olaf i ymarfer yr hen draddodiad o noddi beirdd a thelynorion.
Glyndŵr ar Stad Nannau
Un o’r straeon enwocaf yn hanes Nannau a ddigwyddodd yn 1402 yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr. Cefnder Glyndŵr, Hywel Sele, oedd perchennog Nannau ar y pryd.
Yn ôl y chwedl, mae Hywel yn gwahodd ei gefnder i Nannau. Mae Glyndŵr yn derbyn y gwahoddiad ac, wedi cyrraedd y stad, yn cychwyn ar daith hela gyda Hywel.
Yn ystod yr helfa, mae Hywel yn gweld hydd. Mae’n tynnu ei fwa gan symud yn sydyn i anelu i gyfeiriad Glyndŵr. Fodd bynnag, gan adnabod ei gefnder fel cefnogwr Seisnig pybyr, roedd Glyndŵr wedi paratoi o flaen llaw. Roedd ganddo fest o bost cadwyn o dan ei ddillad a gwnaeth saeth Hywel ddim cymaint â thyllu croen Glyndŵr.
Tynnodd Glyndŵr ei gleddyf, lladdodd ei gefnder, a chuddiodd ei gorff mewn coeden dderwen wag.