Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Sicrhau dyfodol cynaliadwy i Eryri am genedlaethau i ddod

Gall pob un ohonom gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol. Mae chwarae rhan mewn gwarchod ardal mor arbennig ag Eryri yn gallu bod yn brofiad ysbrydoledig a gwneud i ni deimlo cysylltiad cryfach a’r byd naturiol o’n cwmpas.

Pwysigrwydd gwarchod Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd arbennig a phwysig. Mae oddeutu 20% o dir Cymru mewn Parc Cenedlaethol.

Dim ond yn weddol ddiweddar y daeth Parciau Cenedlaethol yn rhan o dirwedd Cymru. Dynodwyd Eryri yn Barc Cenedlaethol ym 1951.

Mae pwysigrwydd Eryri yn cael ei adnabod ar draws y byd.

  • Cynefin i rywogaethau a bywyd gwyllt
    Mae 17 Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn Eryri—mwy nag mewn unrhyw barc cenedlaethol arall yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal, mae 56 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r gwarchodfeydd a’r safleoedd hyn yn hanfodol i rywogaethau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
  • Tirweddau hanfodol
    Mae gan barciau cenedlaethol megis Eryri rhan bwysig i’w chwarae mewn lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae mawndiroedd yn storfeydd carbon anhygoel. Mae 17 miliwn tunnell o garbon wedi ei storio ym mawndiroedd Eryri.
  • Iechyd a lles
    Mae iechyd a lles yn un o bynciau mwyaf y genhedlaeth bresennol. Drwy brofi a dod i gyswllt â natur mewn ardaloedd megis parciau cenedlaethol, gallwn wella ein iechyd a lles meddyliol a chorfforol.
Gwarchod Eryri

Gall pob un ohonom chwarae rhan wrth warchod Eryri am genedlaethau i ddod.

Llysgenhadon Eryri
Mae dros 600 o unigolion wedi cymhwyso fel Llysgenhadon Parc Cenedlaethol Eryri gan gyfrannu tuag at warchod rhinweddau arbennig Eryri.
Gwirfoddoli
Mae cyfleoedd gwirfoddoli niferus ar draws y Parc Cenedlaethol.
Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r prif gorff cyhoeddus sy’n gyfrifol am y Parc Cenedlaethol.
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda amrediad eang o sefydliadau i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Parc Cenedlaethol.
Rho
Heriau’r Parc Cenedlaethol
Rhai o brif heriau Parc Cenedlaethol Eryri yw newid hinsawdd, pwysau ymwelwyr a rhywogaethau ymledol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyd-weithio â nifer o endidau eraill i daclo’r heriau hyn.
Rhagor am Heriau'r Parc Cenedlaethol
A light-brown coloured highland cow with horns looks directly at the camera.
Gwaith Cadwraeth
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw partner craidd nifer o brosiectau cadwraeth yn Eryri. Mae’r prosiectau hyn yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o warchod a gwella rhinweddau arbennig yr ardal.
Gweld gwaith cadwraeth
Cynllun Eryri
Cynllun sy’n nodi rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol yw Cynllun Eryri. Y rhinweddau hyn sy’n gwneud Eryri yn le unigryw a phwysig. Mae’r Cynllun yn amlinellu ffyrdd o gydweithio i warchod y rhinweddau hyn.
Cynllun Eryri
Cynllun Ceidwaid Ifanc
Mae Cynllun Ceidwaid Ifanc Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc ymgysylltu â rhinweddau arbennig ac unigryw Eryri.
Cynllun Ceidwaid Ifanc
Caru Eryri
Rhaglen wirfoddoli yw cynllun Caru Eryri sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y cynllun yw helpu i reoli’r effaith y mae nifer cynyddol o ymwelwyr yn ei chael yn y Parc Cenedlaethol.
Caru Eryri
Snowdonia National Park warden on the coast of Snowdonia
Wardeniaid
Mae Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn aml yn gweithio ar reng flaen gwaith cadwraeth a gwarchod yn Eryri. Gall eu gwaith amrywio yn ddyddiol o ymgysylltu â chymunedau’r Parc Cenedlaethol i waith adfer tirweddau.
Wardeniaid y Parc Cenedlaethol
A volunteer works on a stone path
Gwirfoddoli
Mae cyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn gonglfaen i’r gwaith cadwraeth a gwarchod yn y Parc Cenedlaethol. Ceir amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn.
Gwirfoddoli