Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Llwybr braf trwy barcdir hardd wrth droed Cader Idris

Saif Dôl Idris ar odre deheuol Cader Idris. Mae’r parcdir wedi cael ei ddatblygu dros cyfnod o nifer o flynyddoedd ac erbyn hyn mae ganddo 1.25km o lwybrau parcdir hygyrch.

Pam y llwybr hwn?

Mae Dôl Idris yn llwybr hygyrch, perffaith ar gyfer mynd am dro hamddenol. Mae’r llwybr hefyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau

Profwyd bod treulio amser ym myd natur yn gwella ein hiechyd a’n lles. Mae amgylchfyd heddychlon Dôl Idris yn lle gwych i fwynhau a gwerthfawrogi llonyddwch natur.

A member of the public using the Tramper on Dôl Idris route
Defnyddio'r Tramper ar Lwybr Dôl Idris

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn  a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Dôl Idris, Talyllyn

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris & Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Dôl Idris, Talyllyn

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

  • Toiledau hygyrch
  • Byrddau picnic hygyrch
  • Canolfan Ymwelwyr
  • Ystafell De (tymhorol)

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd

Cais Llogi Tramper ar gyfer Dôl Idris
Gwybodaeth am Logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Dôl Idris

Rhoddwyd y tir hwn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan Mr Ivor Idris ar ddechrau’r 1980au. Roedd ei deulu’n enwog am gynhyrchu’r diodydd meddal adnabyddus ‘Idris’. Mae olion yr hen labordy i’w gweld o hyd.

Yn 2004, cwblhaodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Phartneriaeth Llwybrau Ucheldir Eryri waith gwella ar y safle. Roedd y gwaith yn cynnwys gwella llwybrau, pont newydd a gwaith tirlunio.

Agorwyd Dôl Idris yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2004 gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

Yn 2007, roedd cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi’r Awdurdod i gwblhau datblygiad pellach. O ganlyniad, ychwanegwyd dolen hygyrch 645-metr newydd at y llwybr gwreiddiol.

Llwybrau hygyrch eraill