Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig llogi Tramper yn rhad ac am ddim i bobl sydd ag anawsterau cerdded.
Mae Trampers yn sgwteri symudedd sydd wedi eu dylunio’n bwrpasol ar gyfer tirweddau anwastad. Gallant gael eu defnyddio gan bobl sydd ag anawsterau cerdded oherwydd nam symudedd i gyrraedd rhai o leoedd mwyaf arbennig y Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n gyson i wneud Eryri yn le hygyrch i bawb ac wedi datblygu cyfres o lwybrau Tramper-gyfeillgar ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol. O leoliadau glan llyn heddychlon i olygfannau anhygoel yn y bryniau, mae llwybrau Tramper-gyfeillgar Eryri yn cynnig cyfoeth o ardaloedd i’w mwynhau.

Sgwter symudedd sydd wedi ei ddylunio’n bwrpasol ar gyfer tirwedd anwastad, mwdlyd neu laswelltog yw’r Tramper. Mae’n gerbyd cryf a chadarn sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gyfforddus ar deithiau anwastad. Mae’n caniatau pobl sydd â nam symudedd i fwynhau’r awyr agored ac i ymuno â theulu a ffrindiau ar deithiau cerdded.
Mae’r Tramper yn gerbyd hawdd i’w ddefnyddio sydd yn debyg iawn i sgwter symudedd confensiynol. Pan y byddwch yn llogi Tramper gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch yn derbyn sesiwn anwytho, cyfarwyddiadau diogelwch yn ogystal â chael cyfle i brofi’r Tramper dros eich hunain cyn i chi gychwyn eich taith.
Mae’r Tramper ar gael i unrhyw un sydd ag anawsterau cerdded oherwydd nam symudedd.
Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyfres o lwybrau sydd wedi eu datblygu i fod yn Tramper-gyfeillgar. Mae’r llwybrau hyn i’w gweld ar dudalen Llwybrau a Theithiau y wefan hon ac wedi eu nodi o dan y categori ‘Tramper gyfeillgar’. Mae manylion am sut i logi tramper yn cael eu nodi ar dudalen y llwybr.
Mae llogi Tramper drwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhad ac am ddim. Croesawir cyfraniadau i’r Awdurdod.