Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Gwarchodwch fywyd gwyllt a thirweddau’r Parc Cenedlaethol – dilynwch y cod cefn gwlad

Wrth ddilyn canllawiau’r cod cefn gwlad, gallwn sicrhau fod ardaloedd a bywyd gwyllt Eryri wedi eu diogelu i’r dyfodol.

Mae’r Côd Cefn Gwlad yn ganllaw ar gyfer ymweld â chefn gwlad, ardaloedd o harddwch naturiol ac ardaloedd amaethyddol megis Parc Cenedlaethol Eryri. Dylech ddilyn y côd cefn gwlad bob tro’r rydych chi’n ymweld â’r ardaloedd hyn.

Y Côd Cefn Gwlad

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn cael ei warchod am genedlaethau i ddod.

Cadwch gŵn ar dennyn
Cadw eich ci ar dennyn, yn enwedig yng nghyffiniau da byw, yw'r ffordd orau i sicrhau diogelwch chi a'ch ci.
Ewch â'ch sbwriel adref
Mae sbwriel yn niweidio amgylchedd naturiol Eryri. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn mynd ag unrhyw wastraff bwyd adref gyda chi.
Gofalwch am blanhigion a bywyd gwyllt
Byddwch yn ofalus i beidio â difrodi planhigion dan draed a pheidio ag aflonyddu ar unrhyw fywyd gwyllt cyfagos. Cadwch at y llwybr lle bynnag y bo modd.
Dilynwch arwyddion a chyfarwyddiadau
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y llwybr a pheidiwch ag anwybyddu unrhyw arwyddion sy'n eich rhybuddio am beryglon.
Cadwch at y llwybr
Mae cadw at y llwybr yn helpu i leihau effeithiau erydiad tir ond peidiwch â chymryd camau peryglus i gadw at y llwybrau.
Gadewch gatiau fel y daethoch o hyd iddynt
Os dewch chi ar draws unrhyw gatiau agored, gadewch nhw ar agor. Os dewch chi ar draws unrhyw gatiau ar gau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cau ar eich ôl.
Byddwch yn ystyriol o gerddwyr eraill
Byddwch yn ystyriol o gerddwyr eraill bob amser. Peidiwch â rhwystro llwybrau a, chofiwch, mae cyfarchiad cyfeillgar bob amser yn mynd yn bell.
Arwyddion a symbolau cefn gwlad
Wrth fynd allan i gefn gwlad, mae’n debygol y dewch ar draws arwyddion a symbolau sy’n dynodi’r hawliau mynediad i lwybrau ac ardaloedd o dir.
Public footpath symbol
Llwybr Troed Cyhoeddus

Mae saeth melyn yn symbol sy’n dynodi llwybr cyhoeddus i gerddwyr a defnyddwyr sgwteri symudedd yn unig.

Bridleway symbol
Llwybr Ceffyl

Mae saeth las yn symbol sy’n dynodi llwybr i gerddwyr, defnyddwyr sgwteri symudedd, beicwyr a marchogwyr.

Restriced byway symbol
Cilffordd Cyfyngedig

Mae saeth borffor yn symbol sy’n dynodi llwybr i gerddwyr, defnyddwyr sgwteri symudedd, beicwyr, marchogwyr a cherbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau.

Open access land symbol
Tir Mynediad Agored

Mae’r math yma o dir ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symudedd. Mae’n cael ei ddynodi gyda symbol o ffigwr brown. Does dim rhaid i gerddwyr aros ar lwybrau ar diroedd mynediad agored.

End of Open Access Land symbol
Diwedd Tir Mynediad Agored

Mae’r symbol o ffigwr brown â chroes goch yn dynodi diwedd tir mynediad agored.