Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Llwybr byr, hygyrch i un o’r golygfeydd gorau o Aber Afon Mawddach

Mae Foel Ispri yn sefyll  yn uchel ar y bryniau dros bentrefan Pen-y-Bryn, ger Dolgellau. Mae’n un o’r nifer o lwybrau gwych sydd ar gael ar hyd aber hudol y Fawddach.

Pam y llwybr hwn?

Nodwedd ddiffiniol Foel Ispri yw ei olygfan anhygoel yn edrych dros Aber Afon Mawddach. Dyma’r olygfa orau o bell ffordd o’r aber yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r olygfa yn hygyrch i bramiau a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae Foel Ispri yn parhau ymhellach i’r dwyrain tuag at bentref Llanelltyd. Fodd bynnag, nid yw’r rhan hon o’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

A member of the public using the tramper on the Foel Ispri route
Defnyddio'r Tramper yn Foel Ispri

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn  a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.

Dechrau/Diwedd
Maes parcio Foel Ispri ger Llanelltyd, Dolgellau (SH 698 200)

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Prynu Map

Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Noder bod y ffordd i fyny tuag at y maes parcio yn serth a chul gyda llawer o droeon sydyn. Yn ogystal, dim ond lle i 4-5 cerbyd sydd yn y maes parcio ei hun.

Maes parcio Foel Ispri ger Llanelltyd, Dolgellau

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Mae tua 300 metr o lwybr sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu sgwteri Tramper.

Mae postyn yn dynodi diwedd y llwybr hygyrch.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad i Bawb, sy’n addas ar gyfer sgwteri symudedd tebyg i Tramper. Mae Trampers yn sgwteri sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer tirweddau garw ac anwastad ac yn galluogi pobl sy’n cael anhawster cerdded i gael mynediad i rai o ardaloedd mwyaf anhygoel y Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth llogi Tramper yn rhad ac am ddim, ond croesewir unrhyw rhodd. Rhoi Rhodd

Cais Llogi Tramper ar gyfer Foel Ispri
Gwybodaeth am Logi Tramper
Gwybodaeth am hygyrchedd yn Eryri

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Aber Afon Mawddach

Mae aber helaeth a thywodlyd Mawddach yn un o ardaloedd mwyaf rhyfeddol y Parc Cenedlaethol.

Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd morfa heli a chynefinoedd mawn iseldir.

Mae cors Arthog gerllaw yn gartref i warchodfa natur yr RSPB yn llawn bywyd gwyllt anhygoel fel blodau prin, nadroedd y gwair, gloÿnnod byw a phob math o adar.

Roedd yr ardal hefyd yn ganolbwynt i ddiwydiant cyfoethog Eryri yn y gorffennol. Ar lan ogleddol yr aber, saif mwynglawdd aur hanesyddol Clogau yn uchel uwchben pentref Bontddu. Roedd cloddio am aur yn weithgaredd poblogaidd yn y maes hwn. Roedd panio aur hefyd yn digwydd yn afon Mawddach ei hun.

Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, bu’r Fawddach yn gartref i ddiwydiant adeiladu llongau prysur. Adeiladwyd cyfanswm o 318 o longau ar hyd y Fawddach rhwng 1750 a 1865.

Darganfyddwch lwybrau eraill ar Aber y Fawddach