Llwybr trwy goetir hyfryd ac amrywiol ar lannau Aber Mawddach
Yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae Farchynys yn goetir hyfryd ac amrywiol ger Aber Afon Mawddach. Mae golygfeydd gwych o Gader Idris, Pont y Bermo, ac ardal Dolgellau i’w gweld o olygfannau ar hyd y llwybr.
Mae gan y coetir gymysgedd o goedwigoedd brodorol fel derw a chelyn sy’n denu nifer o adar fel y Gwybedog Brith, y Dringwr Bach a Thelor y Cnau.
Pam y llwybr hwn?
Mae Farchynys yn daith gerdded fer, gymedrol ar lan ogleddol afon Mawddach. Efallai y bydd gan gerddwyr profiadol ddiddordeb mewn cynnwys Farchynys fel rhan o ddiwrnod o heicio yn ardal Mawddach. Mae’r aber yn frith o sawl llwybr byr, cymedrol ar hyd y glannau deheuol a gogleddol.
Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Dechrau/Diwedd
Maes parcio Farchynys, ger Bont-ddu (SH 662 186)
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cader Idris & Llyn Tegid)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes parcio Farchynys
Eiddo Parc Cenedlaethol Eryri
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Aber Afon Mawddach
Mae aber eang a thywodlyd Mawddach yn un o ardaloedd mwyaf rhyfeddol y Parc Cenedlaethol.
Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd morfa heli a chynefinoedd mawn iseldir.
Mae cors Arthog gerllaw yn gartref i warchodfa natur yr RSPB yn llawn bywyd gwyllt anhygoel fel blodau prin, nadroedd y gwair, gloÿnnod byw a phob math o adar.
Roedd yr ardal hefyd yn ganolbwynt ddiwydiant cyfoethog Eryri yn y gorffennol. Ar lan ogleddol yr aber, saif mwynglawdd aur hanesyddol Clogau yn uchel uwchben pentref Bontddu. Roedd cloddio am aur yn weithgaredd poblogaidd yn y maes hwn. Roedd panio aur hefyd yn digwydd yn afon Mawddach ei hun.
Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, bu’r Fawddach yn gartref i ddiwydiant adeiladu llongau prysur. Adeiladwyd cyfanswm o 318 o longau ar hyd y Fawddach rhwng 1750 a 1865.
Pont Abermaw
I lawr tua diwedd yr aber saif Pont y Bermo, yn croesi rhwng glannau gogleddol a deheuol Afon Mawddach. Mae’r bont yn draphont reilffordd bren un trac Gradd II* sy’n ymestyn 820 metr rhwng gorsafoedd Morfa Mawddach a’r Bermo. Dyma’r draphont bren hiraf yng Nghymru ac mae’n gyfystyr â golygfeydd o’r aber.
Y Gadair Awyr Dywyll
Yn 2020 fe arddangosodd rhaglen ‘Y Stiwdio Grefftau’ gan S4C waith crefftwyr o bob cwr o Gymru. Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 70, gofynnodd cynhyrchwyr y rhaglen i 3 o grefftwyr ddylunio ac adeiladu Mainc Awyr Dywyll er mwyn dathlu statws y Parc Cenedlaethol fel Gwarchodfa Awyr dywyll. Byddai’r fainc yn cynnig lle i bobl fynd i wylio’r sêr, gyda’r dyluniad buddugol yn cael ei osod yn Farchynys, sy’n safle hygyrch a diogel i deuluoedd sydd am fynd allan i edrych i fyny ar yr awyr. Y dyluniad buddugol oedd y crefftwaith ysblennydd yma gan Chris Brady, sy’n cyfleu coedlan Farchynys. Crëodd ei ddyluniad ar gyfer y gystadleuaeth o haearn yn ei weithdy. Mae i’r dyluniad boncyff coeden dair cadair, pob un â chytser wedi ei ymgorffori i gefn y sedd gan gynnig nodwedd gyffyrddol i rai ag anhwylder golwg er mwyn eu cynorthwyo i brofi’r sêr uwch eu pennau.