Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Llwybr heddychlon trwy goetir hynafol – perffaith ar gyfer unrhyw dymor

Mae Coed Abergwynant yn goetir 90 erw sydd wedi’i leoli rhwng Dolgellau a’r Bermo. Mae Aber Afon Mawddach, sy’n arwain i’r Bermo, yn rhedeg ochr yn ochr â’r coetir. Mae’r llwybr hefyd yn dilyn rhan o Lwybr Mawddach, llwybr 15km rhwng Dolgellau a’r Bermo.

Mae afon Gwynant, sy’n tarddu wrth droed Cader Idris gerllaw, yn ymdroelli drwy’r goedwig, gan ganiatáu i rywogaethau fel mwsoglau a chennau dyfu’n helaeth. Mae Abergwynant hefyd yn gartref i lawer o rywogaethau coetir megis ffyngau, brogaod a madfallod dŵr. Mae coed brodorol gan gynnwys derw, bedw a chelyn yn tyfu yma hefyd.

Pam y llwybr hwn?

Gall coetiroedd fel Abergwynant fod yn lleoedd tawel, sy’n berffaith ar gyfer mynd am dro i fyfyrio. Gallant hefyd fod yn fydoedd cyffrous o ddarganfod sy’n berffaith ar gyfer taith gyda’r teulu.

Yr hydref yw un o’r amseroedd gorau i ymweld â choetiroedd. Mae sŵn y glaw yn diferu o’r coed uwchben a mynyddoedd o ddail wedi cwympo dan draed yn gwneud coetiroedd fel Abergwynant yn ddewis gwych os ydych chi’n ymweld ag Eryri yn ystod tymhorau tawelach.

Er nad yw Abergwynant yn un o’r teithiau cerdded mwyaf heriol y Parc Cenedlaethol, mae’n siŵr o’ch gwobrwyo â digonedd o olygfeydd godidog a bywyd gwyllt arbennig.

Yn wych ar gyfer:

Ⓗ Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata Arolwg Ordnans AC0000825604. Mae defnydd o’r data yma’n amodol ar delerau ac amodau.

Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth  ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau / Diwedd
Maes Parcio Llyn Penmaen ger Dolgellau

Map OS perthnasol
Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Llyn Penmaen
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Yr enw ‘Abergwynant’

Mae’n debyg bod Abergwynant wedi’i henwi ar ôl afon Gwynant, sy’n llifo trwy’r coetir. Mae ‘Aber’ yn rhagddodiad cyffredin i lawer o enwau lleoedd Cymraeg ac yn golygu ‘mouth of’. Felly, ystyr Abergwynant yw ‘ceg afon Gwynant’.

Place Names in the National Park

Coetiroedd Hynafol

Mae coetiroedd hynafol fel Abergwynant yn gynefinoedd prin. Dim ond mewn ardaloedd sy’n agos at y môr y ceir y coedwigoedd hyn – sy’n golygu bod Eryri yn le perffaith ar gyfer cynefinoedd o’r fath.

Mae’r amodau yn yr ardaloedd hyn yn berffaith i blanhigion prin, cen a ffyngau coedwig dyfu.

 

Darganfyddwch goedydd Eryri

Adfer Abergwynant

Mae Abergwynant yn goetir hynafol sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif. Yn ystod y 1960au, plannwyd coed conwydd yn y coetir, a chliriwyd y rhan fwyaf o goed brodorol. Daeth y safle i feddiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym 1996, a dechreuwyd ar y gwaith o adfer y coetir i’w gyflwr naturiol. Cliriodd yr Awdurdod rywogaethau ymledol megis y Rhododendron ponticum, symudwyd y coed conwydd a phlannu coed brodorol megis derw mes digoes, bedw a chelyn.

Gwaith Cadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Yr Hen Odyn Galch, Abergwynant

Wrth i’r llwybr ddilyn afon Gwynant, fe ddowch ar draws enghraifft wych o hen odyn galch. Byddai llongau a chychod yn cludo calchfaen yma o ardal y Gogarth, Llandudno. Yna, yddai’r calchfaen yn cael ei losgi yn yr odyn i greu calch i’w wasgaru ar y tir fel gwrtaith.

Darganfyddwch mwy o lwybrau coed