Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Cartref i fyd cyfrinachol o blanhigion a rhywogaethau

Er ei bod hi’n hawdd meddwl am y Parc Cenedlaethol fel man mynyddig a chreigiog, mae tua 36,400 hectar, sef 17% ohoni’n goetir.

Mae’r coedwigoedd hyn yn frith o goed llydanddail, conwydd a chymysg ac yn fwrlwm o fywyd gwyllt, creaduriaid prin, planhigion a ffwng o bob math.

Trees at Felenrhyd and Llennyrch woods
Coed Brodorol
Mae nifer fawr o goed brodorol i’w gweld yng nghoedwigoedd Eryri gan gynnwys coed derw, ynn, ffawydd, sycamorwydden, bedw, ceirios, cyll, gwern, criafol, y ddraenen wen a chelyn. Mae rhai o’n coedydd brodorol wedi dioddef o ganlyniad i glefydau coed megis Clefyd Llwyfen yr Iseldiroedd (Dutch Elms Disease). Un o’r clefydau mwyaf bygythiol ar hyn o bryd yw Clefyd Coed Ynn (Ash Dieback Disease). Yn ôl Coed Cadw, gall y clefyd hwn ladd hyd at 80% o goed Prydain
Bywyd Gwyllt Coedwigoedd Eryri
A light-brown coloured highland cow with horns looks directly at the camera.
Prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae gan Gymru ei choedwigoedd glaw arbennig a elwir yn Goedwigoedd Glaw Celtaidd. Diolch i arian sylweddol gan raglen LIFE yr UE a Llywodraeth Cymru, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn arwain prosiect gwerth £7 miliwn er mwyn sicrhau dyfodol y coedwigoedd derw, mawreddog hyn. Mae coedwigoedd glaw Celtaidd o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd eu strwythur agored, a’r amodau mwyn a llaith ynddynt sy’n gynefin i gyfoeth o lystyfiant.
Am Brosiect Coedwigoedd Glaw Celtiadd
Pwysigrwydd ein coedwigoedd

Mae coedwigoedd Eryri yn chwarae rhan fawr wrth fynd i’r afael â rhai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol. Maen nhw hyd yn oed yn chwarae rhan fawr yn niwylliant a mytholeg yr ardal.

Ased gwerthfawr
Mae coedwigoedd yn ased naturiol gwerthfawr. Maent yn gwarchod rhag llifogydd, yn gwella ansawdd ein haer ac yn darparu cysgod i anifeiliaid.
Mytholeg a Llên Gwerin
Ein coedlannau naturiol, hudol yw rhai o drysorau mwyaf Cymru wledig. Maen nhw’n gefnlen i lawer o hanesion, llên gwerin a mytholeg Eryri.
Safonau Amgylcheddol Uchel
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar nifer o goedlannau sy’n cael eu rheoli hyd at y safon amgylcheddol uchaf posibl.
Gwarchod Coetiroedd Collddail
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwarchod, gwella ac ehangu coetiroedd collddail cynhenid a'u bioamrywiaeth trwy ddarparu cyngor, cymorth a grantiau.
Coetiroedd Conifferaidd
Er bod coetir conifferaidd o werth ecolegol llai, maent yn dal i chwarae rhan bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, fel yng Nghoed y Brenin ac yng Nghoedwig Gwydir.
Cynefin i fywyd gwyllt prin
Mae coedlannau Eryri yn gynefinoedd pwysig i blanhigion a rhywogaethau prin megis ffyngau a mwsoglau.