Cyfres o lwybrau hamddenol yn un o ddyffrynnoedd mwyaf godidog Eryri
Mae llwybr Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair yn rhan o rwydwaith eang 30km o lwybrau troed sydd wedi’u lleoli rhwng Plas Tan y Bwlch a Llyn Mair.
Wedi’i sefydlu ym 1989 gan bartneriaeth o dirfeddianwyr lleol, mae’r rhwydwaith yn frith o hanes lleol ac mae’n doreithiog o fywyd gwyllt.
Mae’r daith hon yn glytwaith o lwybrau gwahanol, gyda phôb cyffordd wedi ei farcio gyda phostyn a rhif, felly cewch ddewis hyd eich taith i weddu chi. Cofiwch lawrlwytho neu brintio’r map oddi ar y wefan fel y gallwch ddilyn eich ffordd wrth gerdded.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r rhwydwaith yn cynnig nifer o lwybrau eraill y gellir eu llywio’n hawdd gyda’r map ardal a phostiau wedi’u rhifo ar y llwybr.
Mae’r llwybr yn cynnwys hen lwybrau stad, rhai yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif pan dirluniwyd Dyffryn Maentwrog gan stad Plas Tan y Bwlch.
Rhan o ramant crwydro’r llwybrau yw darganfod treftadaeth hanesyddol gyfoethog yr ardal yn ogystal â’r amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a chynefinoedd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr hamddenol. Mae’n addas ar gyfer pobl â lefel rhesymol/cymedrol o ffitrwydd. Gall y tir gynnwys llwybrau gwledig heb wyneb a thir bryniog. Argymhellir esgidiau cerdded a dillad dal dŵr.
Dechrau/Diwedd
Cilfan ger Plas Tan y Bwlch
Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL18 (Harlech, Porthmadog & Bala)
Cofiwch rhaid parcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Cilfan ger Plas Tan y Bwlch
Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Plas Tan y Bwlch
Plasty yn nyffryn Maentwrog yw Plas Tan y Bwlch gyda hanes cyfoethog yn dyddio’n ôl ganrifoedd. Yn ystod yr 16eg ganrif, yn araf bach daeth Ieuan ap Iorwerth ap Adda a’i ddisgynyddion i feddiant eiddo a thir yn ardal Maentwrog a Ffestiniog, a ddaeth yn y pen draw yn stad Tan y Bwlch. Roedd teuluoedd Tan y Bwlch yn uchel eu parch yn lleol oherwydd eu cysylltiadau teuluol tybiedig â’r Tywysog enwog Gruffudd ap Cynan.
Fodd bynnag, mae’n debyg bod y Plas yn fwyaf adnabyddus am fod yn gartref i’r teulu Oakeley yn ystod y 19eg ganrif. Daeth cyfoeth y teulu Oakeley o’u perchnogaeth o chwarel Ffestiniog gerllaw. William Oakeley oedd perchennog mwyaf adnabyddus Plas Tan y Bwlch. Roedd ei ddyfodiad yn rhagflaenu cyfnod llewyrchus i’r ystâd, a oedd wedi tyfu’n sylweddol trwy waddol priodas ac etifeddiaeth. Roedd William Oakeley yn ddyn poblogaidd a adnabyddir yn lleol fel ‘Oakeley Fawr’ (Great Oakeley).
Prynodd Cyngor Sir Meirionnydd y tŷ a’r tiroedd ym 1969. Daethant yn y diwedd o dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a agorodd y Plas fel canolfan astudio yn 1975.
Afon Dwyryd
Yn wreiddiol rhedai afon Dwyryd, a welir o sawl man ar hyd y llwybr, drwy rwydwaith o sianeli morfa heli ar hyd dyffryn trawiadol Maentwrog. Fodd bynnag, defnyddiwyd y tir ar gyfer amaethyddiaeth ym 1797. Mae’r afon bellach yn rhedeg rhwng cyfres o argloddiau sy’n ymdroelli o un ochr y dyffryn i’r llall.
Diwydiant Coed
Tyfwyd derw yn fasnachol yn yr ardal rhwng y 18fed a’r 19eg ganrif, yn bennaf ar gyfer y diwydiant adeiladu llongau ym Mhorthmadog. Tyfwyd conwydd hefyd ar gyfer y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, sef prif ffynhonnell incwm y teulu Oakeley o Blas Tan y Bwlch. Mae’r blanhigfa gonifferaidd bresennol yn dyddio o’r 1960au.
Rheilffordd Ffestiniog
Roedd Rheilffordd Ffestiniog yn cludo llechi o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog o 1836. Heddiw, mae trigolion, ymwelwyr a selogion yn defnyddio ei threnau stêm yn hamddenol.
Llyn Mair
Llyn 14-erw yw Llyn Mair a godwyd yn 1889 gan William Edward Oakeley o Blas Tan y Bwlch. Roedd y llyn yn anrheg penblwydd yn 21 i’w ferch, Mair.
Roedd y Pwll Melin yn y ceunant islaw Llyn Mair unwaith yn cyflenwi dŵr i bweru melin lifio, melin flawd a thyrbin oedd yn cynhyrchu trydan i’r Plas a phentref Maentwrog. Credir mai Plas Tan y Bwlch yw’r tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru gyda goleuadau wedi’u pweru gan drydan dŵr.
Bywyd gwyllt
Mae coetiroedd y dyffryn wedi eu dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd eu digonedd o dderw ucheldirol. Mae’n gynefin ardderchog i fwsoglau, llysiau’r afu a chennau, a’r ystlumod prin a geir yn yr ardal.
Mae tymhorau’r gwanwyn a’r haf yn croesawu’r gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed. Mae Llyn Mair yn denu hwyaid gwyllt yn y gaeaf. Adar eraill a gofnodwyd yma yw’r troellwr mawr, gwalch y moch a gwalch y pysgod.
Mae arwyddion llwynogod a mochyn daear yn doreithiog, ac mae’r bele goed wedi ei gwel dyma hefyd.