Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
MAES PARCIO PEN Y PASS: Gellir nawr ragarchebu lle parcio ym Mhen y Pass.

Llwybr hygyrch sydd yn arwain at droed un o raeadrau mwyaf trawiadol Eryri.

Rhaeadr Fawr yw un o raeadrau mwyaf dramatig Eryri. Wedi’i lleoli ar odre gogleddol y Carneddau, mae’r rhaeadr yn rhan o ddisgynfa olaf yr Afon Goch i’r Fenai.

Mae’r afon yn plymio’n ddramatig o uchder o 120 troedfedd, gan ddisgyn i bwll creigiog bas cyn parhau i gyfeiriad pentref Abergwyngregyn.

Pam y llwybr hwn?

Rhyfeddod  y Rhaeadr Fawr yw’r ffaith y gall un o nodweddion mwyaf trawiadol y Parc Cenedlaethol fod mor hygyrch i lawer. Fel un o’r teithiau cerdded byrraf sydd ar gael yn Eryri, mae’r Rhaeadr Fawr yn opsiwn gwych i’r rhai sydd ar ddechrau eu taith i ddarganfod beth sy’n gwneud Eryri mor unigryw.

Dafliad carreg o’r A55, mae’r Rhaeadr Fawr yn opsiwn gwych i’r rhai sydd newydd gyrraedd y Parc Cenedlaethol.

Mae’r llwybr yn cynnig nifer o lefydd picnic gydag ardaloedd agored eang sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc.

Yn wych ar gyfer:
Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr Mynediad  i Bawb. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn cynnwys arwynebau gwastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth. Mae esgidiau neu ‘trainers’ cyfforddus yn addas ar gyfer y llwybr hwn.

Dechrau / Diwedd
Maes Parcio Rhaeadr Fawr

Map perthnasol
Arolwg Ordnans Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Prynu Map

Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Maes Parcio Uwch
Eiddo Cyfoeth Naturiol Cymru

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Maes Parcio Is  (ger Bontnewydd)
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Noder: Mae dau faes parcio bychan ar ddechrau Llwybr Rhaeadr Fawr. Mae’n rhaid gyrru drwy bentref Abergwyngregyn ar ffordd gul i’w cyrraedd.

Mae’r meysydd parcio hyn yn llenwi’n sydyn, yn enwedig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, gan achosi tagfeydd ac oedi hir ar ddiwrnodau prysur.

Cynghorir i ystyried defnyddio’r maes parcio rhad ac am ddim cyn cyrraedd pentref Abergwyngregyn. Trowch oddi ar yr A55 ar Gyffordd 13 gydag arwydd Abergwyngregyn. Dilynwch yr arwyddion P i’r maes parcio rhad ac am ddim sydd ar y chwith yn hytrach na dilyn y ffordd i fyny drwy’r pentref.

Mae’n cymryd tua 30 munud i gerdded o’r maes parcio hwn i gyrraedd man cychwyn Llwybr Rhaeadr Fawr (byddwch yn mynd heibio caffi Caffi Hen Felin ar y ffordd). Byddwch yn wyliadwrus o draffig gan fod y ffordd yn gul iawn mewn mannau.”

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi categoreiddio’r llwybr fel llwybr ‘Mynediad i Bawb’. Mae hyn yn golygu bod y llwybr yn addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys y rhai sydd â chadeiriau olwyn  a chadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r tir yn wastad yn bennaf heb unrhyw risiau na darnau serth.

Mae llwybr mwy heriol i’r rhaeadrau drwy’r coetir. Nid yw’r llwybr hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio confensiynol. Mae’r llwybr hygyrch yn dilyn yr afon.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Mae yna fwrdd picnic hygyrch yn y maes parcio uwch
  • Mae toiled cyhoeddus mwy yn y maes parcio uchaf
  • Mae dau opsiwn i ddechrau’r llwybr—un o’r maes parcio uwch ac un arall o’r maes parcio is. Cewch fynediad mwy hygyrch i’r llwybr  at y rhaeadr drwy’r maes parcio is.
  • Mae’r llwybr yn llydan
  • Mae’r llwybr yn anwastad a serth ar brydiau, gyd rhai tyllau yn y llwybr
  • Gellir agor gatiau llydan gydag allwedd RADAR pan fyddant wedi cloi
  • Mae gatiau mochyn llydan ar hyd y llwybr
  • Gall y sawl  sy’n defnyddio cadair olwyna gaiff ei gwthio brofi mwy o anhawster na’r sawl sy’n defnyddio cadair olwyn drydan

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cyngor ar Ddiogelwch
Cod Cefn Gwlad

Cartref i dywysogion Gwynedd

Roedd ardal Rhaeadr Fawr yn breswylfa bwysig i dywysogion Gwynedd. Byddai Abergwyngregyn gerllaw yn arfer cael ei adnabod fel Aber Garth Celyn a dyma sedd Llywelyn ap Gruffudd. Mae Llywelyn ymhlith yr enwocaf o dywysogion Cymru. Roedd yn cael ei adnabod fel ‘Llywelyn Ein Llyw Olaf’ ac ef oedd tywysog sofran olaf Cymru cyn concwest Edward I yn 1282.

Y Carneddau

Mae Rhaeadr Fawr ar odre gogleddol y Carneddau. Y Carneddau yw un o fynyddoedd mwyaf cyfareddol Eryri. Dyma’r ardal fwyaf o dir yn y Parc Cenedlaethol sydd heb ymyrryd a fo, ac mae’n gorchuddio dros 220 metr sgwâr/km. Mae gan y gadwyn hon o fynyddoedd gyfoeth o rinweddau arbennig o’i merlod gwyllt sy’n crwydro’n rhydd i’w holion archeolegol Rhufeinig hynod ddiddorol.

Y Bontnewydd

Wrth i chi deithio at ddechrau’r llwybr, byddwch yn croesi pont a elwir Y Bontnewydd. Er ei henw, mae’r bont hon yn dyddio’n ôl i 1822 – mae mapiau Arolwg Ordnans o’r cyfnod hwn yn nodi ei bodolaeth. Defnyddiwyd y bont gan borthmyn flynyddoedd lawer yn ôl. Porthmyn oedd yn gyfrifol am yrru gwartheg a defaid o gefn gwlad Cymru i farchnadoedd Lloegr. Eu gwaith oedd gyrru buchesi o anifeiliaid dros gannoedd o filltiroedd o dirwedd Eryri. Mae tystiolaeth o lwybrau’r porthmyn wedi eu gwasgaru ar draws y Parc Cenedlaethol.

 

 

Llwybr Arfordir Cymru

Wrth droed y rhaeadr fe ddowch ar draws pont. Mae’r bont hon yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r llwybr hwn yn llwybr di-dor 870 milltir  sydd yn mynd ar hyd arfordir Cymru gyfan. Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â llwybr o’r fath.

Llwybr Arfordir Cymru

Darganfyddwch lwybrau eraill
This site is registered on wpml.org as a development site.