Taith gerdded i odre cadwyn mynyddoedd y Rhinogydd
Bwlch Drws Ardudwy yw’r hiraf o ddwy daith gerdded yn yr ardal hon. Mae Coed Graigddu yn ddewis byrrach. Bydd y daith gylchol hon yn eich arwain trwy goedwig Graigddu tuag at Fwlch Drws Ardudwy — y bwlch rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach.
Mae’r llwybr yn gyfle perffaith i brofi garwder cadwyn mynyddoedd y Rhinogydd.
Pam y llwybr hwn?
Dywedir yn aml fod cadwyn mynyddoedd y Rhinogydd yn un o’r gwir wylltir olaf yng Nghymru. Mae’r ardal greigiog hon sydd wedi’i gorchuddio â grug tua’r de o’r Parc Cenedlaethol yn Warchodfa Natur Genedlaethol ddynodedig ac mae’n gartref i doreth o rywogaethau pwysig a phrin.
Fel llwybr cymedrol, gall fod yn addas ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith i rannau llai adnabyddus o’r Parc Cenedlaethol neu ar daith anturus gyda’r teulu.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys rhai llwybrau serth a bydd rhannau yn y cefn gwlad agored yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Mae’r llwybr hwn yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog. Nid oes unrhyw farcwyr ar y llwybr a gall fynd yn wlyb iawn dan draed. Bydd angen i chi gario map a gwisgo esgidiau cryf sy’n dal dŵr os ydych am ddilyn y llwybr hwn.
Dechrau/Diwedd
Maes Parcio Coed Graigddu
Map OS perthnasol
Arolwg Ordnans Exp OL18 (Harlech, Porthmadog a Bala)
Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.
Maes Parcio am ddim
Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog
Bydd llwybr Bwlch Drws Ardudwy yn mynd â chi i Warchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog – ardal sy’n gartref i lawer o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig.
Mae’r rhostir, sy’n gorchuddio bron i 70% o’r warchodfa, wedi’i amlygu gan greigiau mynyddoedd y Rhinogydd, gan gynnwys Rhinog Fawr, Rhinog Fach, Y Llethr a Moel Ysgyfarnod i enwi ond ychydig.
Mae ardaloedd coediog y warchodfa yn cynnwys cymysgedd o goed ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer gwahanol fwsoglau, llysiau’r afu, ffyngau, trychfilod, adar ac ystlumod.
Mae llawer o lynnoedd llai Eryri yn galw gwarchodfa’r Rhinog yn gartref iddynt, gan gynnwys Llyn Du a Llyn Cwmhosan.