Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
MAES PARCIO PEN Y PASS: Gellir nawr ragarchebu lle parcio ym Mhen y Pass.

Darganfyddwch ran o dreftadaeth ddiwydiannol Eryri ar y daith gerdded hon i fwynglawdd aur Clogau

Gan ddechrau ym mhentref Bontddu, bydd y llwybr hwn yn eich arwain ar hyd llwybrau coetir, nentydd tawel a gweunydd glaswelltog nes cyrraedd mwynglawdd aur hanesyddol Clogau.

Mae golygfeydd eithriadol o fynyddoedd de Eryri ac aber y Fawddach yn rheswm arall i fentro ar hyd y llwybr.

Pam y llwybr hwn?

Heb os, prif atyniad y llwybr hwn yw’r berl treftadaeth ddiwydiannol sef mwynglawdd aur Clogau. Mae gorffennol diwydiannol cyfoethog Eryri yn un o’i rinweddau unigryw, ac mae Clogau yn rhan gynhenid o’r dreftadaeth honno.

Mae Clogau yn opsiwn gwych i’r rhai sydd ar ddechrau eu taith i ddarganfod hanes diwydiannol Eryri.

Yn wych ar gyfer:
Y Daith

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth  ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.

Dechrau/Diwedd
Cilfan ym mhen draw Bontddu yn Nolgellau oddi ar yr A496

Map Perthnasol
Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)

Lawrlwytho PDF o’r daith
Lawrlwytho GPX o’r daith
Prynu Map

Cofiwch barcio mewn ardaloedd parcio dynodedig a pheidiwch byth â pharcio mewn llefydd sydd yn rhwystro mynediad i gaeau neu ardaloedd preswyl.

Cilfan ym mhentref Bontddu

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Byddwch yn ddiogel a helpwch i warchod cefn gwlad trwy ddarllen y wybodaeth am ddiogelwch a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Diogelwch
Cod Cefn Gwlad

Mwynglawdd Aur Clogau

Ar un adeg Mwynglawdd Clogau oedd y mwyaf ac a oedd yn cynhyrchu’r mwyaf o aur yn yr ardal. Cloddiodd y glowyr dros 165 tunnell o fwynau rhwng 1862 a 1911 – ac aur oedd dros 2 dunnell ohono.

Ym 1899, cloddwyd gwerth £60,000 o aur o Clogau—cyfwerth â dros £8m yn arian heddiw.

Nid yw mwyngloddio aur yn digwydd yng Nghymru heddiw, ac efallai y bydd y cyflenwad o aur Cymreig yn dod i ben yn y pen draw, gan ei wneud o bosib yr aur prinnaf yn y byd.

Adeiladu llongau ar y Fawddach

Mae’r llwybr yn cynnig golygfeydd rhyfeddol o aber y Fawddach. Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, roedd yr aber yn ganolfan adeiladu llongau brysur. Adeiladwyd cychod a llongau tuag at ardal Llyn Penmaen a’u llusgo ar hyd yr aber i’r Bermo, lle roedd yr offer hwylio a rigio yn cael eu gosod. Roedd cyfanswm o 318 o longau ar hyd y Fawddach rhwng 1750 a 1865.

Treftadaeth Ddiwydiannol Eryri

Mae Clogau yn un o nifer o drysorau treftadaeth ddiwydiannol sydd wedi’u gwasgaru ar draws y Parc Cenedlaethol. Roedd mwyngloddiau aur cyfagos fel Gwynfynydd hefyd yn weithredol yn ystod diwedd y 19eg ganrif. Mae safleoedd mwyngloddio eraill yn cynnwys mwynglawdd copr Sygun yn Nant Gwynant.

Treftadaeth Ddiwydiannol Eryri

Darganfyddwch lwybrau eraill yn yr ardal
This site is registered on wpml.org as a development site.